Mater - cyfarfodydd

Target 70

Cyfarfod: 14/09/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 21)

21 Targed 70 pdf icon PDF 142 KB

Ystyried y cynigion cyn iddynt gael eu hystyried gan y Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd Neil Cox, Rheolwr y Gwasanaethau Stryd ei gyflwyno i’r cyfarfod gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth)   Cyflwynodd yr adroddiad a oedd yn rhoi adborth o’r ddau weithdy/seminar o’r holl aelodau a gafodd eu cynnal i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y perfformiad ailgylchu presennol, effaith pandemig COVID ar wasanaethau a newidiadau y gallai’r Cyngor eu rhoi ar waith er mwyn cyrraedd y targed ailgylchu cenedlaethol, sef 70%.  Dywedodd fod yr adroddiad yn rhoi adborth o’r seminarau ac argymhellion ar ailgylchu a darpariaethau gwasanaethau gwastraff yn y dyfodol.  Cyfeiriodd y Prif Swyddog at dudalen 26 yr adroddiad a oedd yn rhestru’r argymhellion a wnaed gan Aelodau o’r gweithdai/seminarau.  Adroddodd ar yr ystyriaethau allweddol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Wrth ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle ynghylch ailgylchu gwastraff a’r wybodaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer yr henoed a phobl ddiamddiffyn, esboniodd y Prif Swyddog fod gwaith yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â’r Gwasanaeth Tai i godi ymwybyddiaeth a bod rhagor o wybodaeth yn cael ei datblygu a’i rhannu ar gyfer pobl sydd heb fynediad at y rhyngrwyd.

 

Mynegodd y Cynghorydd Dave Evans ei gefnogaeth i’r system tagiau electronig ar gyfer y gwasanaeth casglu biniau brown (adnabod amledd radio).  Holodd am y data a ddarparwyd ynghylch cyfraddau llwyddo’r cynllun peilot.  Ymatebodd y Prif Swyddog i’r pwyntiau a godwyd a chadarnhaodd fod y cynllun peilot wedi bod yn llwyddiant a chyfeiriodd at y buddiannau a welwyd.  Dywedodd mai’r bwriad yw cyflwyno’r rhaglen dros y Sir, yn raddol o bosibl, yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton a ellid darparu gwybodaeth am nifer y preswylwyr sy’n derbyn casgliadau â chymorth, a’r system pàs cerbyd.  Cytunodd y Prif Swyddog y byddai’n cylchredeg gwybodaeth am nifer y casgliadau â chymorth i’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod.  Dywedwyd wrth yr aelodau y gellid hefyd darparu deunydd darllen ar gyfer casgliadau â chymorth.  Dywedodd y Prif Swyddog y gellid rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y system pàs cerbyd yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a wneir gwiriad i sicrhau bod unigolion yn dal i fod angen y cynllun casgliadau â chymorth.  Cytunodd y Prif Swyddog y byddai adolygiad yn cael ei gynnal i sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei diweddaru ynghylch yr angen/cymhwystra i dderbyn y gwasanaeth.

 

Soniodd y Cynghorydd Sean Bibby fod angen codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am ailgylchu o ran eglurder ynghylch yr hyn y gellir a’r hyn na ellir ei ailgylchu.  Cyfeiriodd at gasgliadau enghreifftiol nad yw criwiau’r gwasanaethau stryd yn eu casglu gan eu bod yn cynnwys eitemau na ellir eu hailgylchu.  Soniodd y Cynghorydd Bibby hefyd am y cynwysyddion a’r bagiau gwastraff ar y palmant a dywedodd fod problemau sbwriel weithiau’n codi oherwydd bod bagiau/cynwysyddion wedi torri ac agor.  Roedd yn falch o glywed fod mesurau gorfodaeth gwastraff ochr y ffordd yn eu hôl.  Fe wnaeth y Prif Swyddog gydnabod y pwyntiau a wnaed a dywedodd y gellid cynnal adolygiad yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd  ...  view the full Cofnodion text for item 21