Mater - cyfarfodydd

Internal Audit Progress Report

Cyfarfod: 17/11/2021 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 38)

38 Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf icon PDF 85 KB

Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg yr adroddiad rheolaidd yn dangos cynnydd ar y Cynllun, adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.  Ers yr adroddiad diwethaf, roedd un adroddiad Coch (sicrwydd cyfyngedig) ac roedd wedi’i gynnwys yn nes ymlaen ar y Rhaglen.  Ar olrhain camau gweithredu, roedd gostyngiad yn nifer y camau oedd yn hwyr ac roedd  ffyrdd eraill o reoli’r rhain yn cael eu hystyried i wneud gwell defnydd o amser swyddogion.  Roedd dangosyddion perfformiad ar gyfer y gwasanaeth wedi’u heffeithio gan nifer yr archwiliadau a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod a’r ffocws a roddwyd i’r adroddiad sicrwydd coch.

 

Ar gais Sally Ellis, byddai’r adroddiad sicrwydd Oren/Gwyrdd ar Foeseg a Gwerthoedd Sefydliadol yn cael ei rannu â’r Pwyllgor.  Byddai’r cam gweithredu blaenoriaeth uchel ar hysbysiadau rhai sy’n gadael Cronfa Bensiynau Clwyd, a oedd wedi’i weithredu ar ôl llunio’r adroddiad terfynol, yn cael ei ddiweddaru.

 

Yn dilyn pryderon a godwyd gan Allan Rainford ar y cam gweithredu hwyr ar Gyflogres 2017/18 a oedd wedi’i ohirio oherwydd problemau capasiti, byddai diweddariad ar gynnydd yn cael ei rannu â’r Pwyllgor.

 

Cytunai’r Pwyllgor ag awgrym y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y byddai’r adroddiad cynnydd yn cael ei hepgor o gyfarfodydd mis Tachwedd i fod yn adlewyrchiad cywir o ystadegau chwarterol ac o ystyried pa mor agos yw dyddiadau mis Medi a mis Tachwedd.

 

Ar y sail honno, cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Paul Johnson ac fe’u heiliwyd gan Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Derbyn yr adroddiad; a

 

(b)       Derbyn Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol yn chwarterol ym mis Mehefin, Medi, Ionawr a Mawrth.