Mater - cyfarfodydd
Internal Audit Progress Report
Cyfarfod: 27/09/2021 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 27)
27 Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol PDF 86 KB
Cyflwyno diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd yr Adran Archwilio Mewnol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Internal Audit Progress Report, eitem 27 PDF 893 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y diweddariad rheolaidd yngl?n â’r cynnydd yn erbyn y Cynllun, yr adroddiadau terfynol a gyhoeddwyd, olrhain camau gweithredu, dangosyddion perfformiad ac ymchwiliadau presennol.
Ers yr adroddiad diwethaf, nid oedd unrhyw adroddiadau Coch (sicrwydd cyfyngedig). Roedd dau adroddiad Oren Coch (rhywfaint o sicrwydd) yngl?n â Hysbysiad am Ymadawyr o’r Rhestr Gyflogau i Gronfa Bensiynau Clwyd, a Theledu Cylch Caeëdig. O ran olrhain camau gweithredu cyffredinol, roedd dulliau amgen o reoli camau gweithredu a oedd heb eu cyflawni yn cael eu hystyried er mwyn gwneud defnydd mwy effeithiol o amser swyddogion. Cafodd datblygiadau o fewn Cynllun Archwilio 2021/22 eu crynhoi.
Wrth drafod y Cynllun Archwilio, cyfeiriodd Sally Ellis at gyfeiriadau at y gwaith archwilio ym maes Caffael a Rheoli/Monitro Contractau, ac awgrymodd fod angen rhagor o eglurder mewn adroddiadau yn y dyfodol er mwyn helpu i ddeall y gwahanol elfennau o waith. Rhoddodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg drosolwg o’r ddau ddarn gwahanol o waith yn y maes hwnnw.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan Sally Ellis a’i eilio gan y Cynghorydd Martin White.
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad.