Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 14/03/2022 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 65)

65 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 84 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i'w hystyried.

 

Nid oedd yna newidiadau a chafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Janet Axworthy ac Arnold Woolley.

 

Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf tymor y Cyngor, fel yr awgrymwyd gan y Cynghorydd Janet Axworthy, rhoddwyd teyrngedau i bob swyddog ac aelod cyfetholedig am eu cyfraniadau i waith y Pwyllgor dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol; a

 

(b)       Awdurdodi’r Rheolwr Archwilio Mewnol, Perfformiad a Risg mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.