Mater - cyfarfodydd
Flintshire Financial Sustainability Assessment Final report
Cyfarfod: 16/09/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 33)
33 Adroddiad Terfynol Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol Sir y Fflint PDF 82 KB
Pwrpas: Rhannu adroddiad asesu cynaliadwyedd ariannol gan Archwilio Cymru gydag aelodau.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Cabinet report, eitem 33 PDF 84 KB
- Enc. 2 - Audit Wales report, eitem 33 PDF 391 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Terfynol Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol Sir y Fflint
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar ganfyddiadau Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol y Cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru yn dilyn adolygiad o bob Cyngor ledled Cymru. Nid oedd angen ymateb ffurfiol gan fod yr adroddiad wedi cyflwyno adlewyrchiad teg o sefyllfa ariannol y Cyngor a dim materion newydd i’w nodi. Cafwyd yr eitem er gwybodaeth yn unol â’r protocol i adroddiadau rheoleiddio.
Wrth gyflwyno’r canfyddiadau, croesawodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gydnabyddiaeth o ‘strategaeth ariannol glir ac wedi’i rannu’n dda’, perfformiad y gorffennol ar gyflawniadau arbedion effeithlonrwydd a gwariant i’w gymharu’r gyllideb. Amlygodd y sylwadau ar Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru i helpu i adfer incwm a gollwyd a defnydd y Cyngor o’r arian wrth gefn.
Dywedodd Matt Edwards bod yr adroddiad wedi dod i gasgliad o’r ail gam o’r gwaith asesu cynaliadwyedd ariannol gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ystod 2020-21 yn dilyn asesiad sylfaenol o’r effaith cychwynnol y pandemig yn 2019-20.
Dywedodd Gwilym Bury bod pob adroddiad cenedlaethol yn cael eu cyhoeddi ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru, a bod adroddiad cryno cenedlaethol yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Nodwyd bod bwlch cyllid arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2022-23 yn adlewyrchu’r sefyllfa ar adeg yr adolygiad ac wedi cynyddu ers hynny fel y nodwyd yn gynharach yn y cyfarfod.
Diolchodd y Cynghorydd Geoff Collett y swyddogion am yr adroddiad cadarnhaol yn ogystal â’r Cynghorydd Paul Johnson a oedd yn falch nad oedd unrhyw argymhellion newydd i’r Cyngor.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Andy Williams a Kevin Rush.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad a chadarnhau nad oes unrhyw faterion i’w cyflwyno gerbron y Cabinet.