Mater - cyfarfodydd

Statement of Accounts 2020/21

Cyfarfod: 27/09/2021 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 24)

24 Datganiad Cyfrifon 2020/21 pdf icon PDF 249 KB

Cyflwyno fersiwn derfynol wedi’i harchwilio o Ddatganiad Cyfrifon 2020/21 i gael eu cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y fersiwn derfynol o Ddatganiad Cyfrifon 2020/21 a oedd yn ymgorffori’r newidiadau a gytunwyd arnynt gydag Archwilio Cymru yn ystod yr archwiliad.

 

Wedi i’r cyfrifon drafft gael eu cyflwyno ym mis Gorffennaf, dosbarthwyd atebion i’r cwestiynau a godwyd gan y Pwyllgor, ac ni chodwyd unrhyw faterion pellach yn ystod y cyfnod ymgynghori dros yr haf.  Nid oedd unrhyw gamddatganiadau heb eu cywiro, nac unrhyw faterion arwyddocaol wedi codi yn ystod yr archwiliad a oedd yn agos at gael ei gwblhau. Roedd crynodeb o’r camddatganiadau a gafodd eu cywiro wedi’i atodi i’r adroddiad, a nodwyd y byddai newid yn cael ei wneud i nodyn 15 yngl?n ag ‘arian parod a chywerthoedd arian parod’ cyn i’r adroddiad gael ei gymeradwyo’n derfynol.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r fersiwn derfynol ar y sail honno, a oedd o fewn y dyddiad cau statudol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd wedi’i ymestyn yn sgil y pandemig parhaus.

 

Cafwyd cyflwyniad gan Matt Edwards o Archwilio Cymru yngl?n â meysydd a chanfyddiadau allweddol yr archwiliad:

 

·         Cyfrifoldebau’r Archwilydd Cyffredinol

·         Sefyllfa’r Archwiliad

·         Canfyddiadau cyffredinol

·         Effaith COVID-19 ar yr archwiliad eleni

·         Annibyniaeth

·         Edrych i’r dyfodol

 

Yn ystod y cyflwyniad, diolchodd Matt Edwards i swyddogion y Cyngor am eu gwaith yn llunio’r datganiadau ariannol i safon dda mewn modd amserol er gwaethaf yr heriau sy’n deillio o weithio o bell yn sgil pandemig Covid-19.   Dywedodd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Pwyllgor, bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi barn ddiamod ar y datganiadau ariannol.

 

Cydnabu Allan Rainford y gwaith a wnaed gan y swyddogion er mwyn cyflawni’r canlyniad cadarnhaol hwn. Gan ymateb i gwestiwn, eglurodd Matt Edwards y broses o adolygu ffigurau amcan ar gyfer asedau a rhwymedigaethau pensiwn y Cyngor, a chadarnhaodd nad oedd unrhyw faterion wedi’u nodi i’w codi gyda’r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr amserlen ar gyfer y cyfrifon blynyddol y flwyddyn nesaf – yr amserlen hirach bresennol neu’r un fyrrach newydd – yn parhau yn agored fel cwestiwn, ac y byddai’n dibynnu ar drafodaethau gydag Archwilio Cymru. Soniodd hefyd am ganlyniadau cadarnhaol cydweithio â chydweithwyr yn Archwilio Cymru a sefydlu’r Gr?p Llywodraethu Cyfrifon.

 

Fel Aelod Cabinet Cyllid, Gwerth Cymdeithasol a Chaffael, canmolodd y Cynghorydd Paul Johnson dimau’r Cyngor a chydweithwyr yn Archwilio Cymru am y ffordd yr oeddent wedi gweithio gyda’i gilydd yn ystod y cyfnod argyfwng er mwyn cwblhau’r cyfrifon.

 

Wrth ddiolch i gydweithwyr yn Archwilio Cymru am eu proffesiynoldeb drwy gydol y broses, fe wnaeth y Rheolwr Cyllid Corfforaethol hefyd ddatgan ei werthfawrogiad i gydweithwyr Cyllid ar draws y sefydliad am helpu i gynnal ansawdd y cyfrifon ac yn enwedig swyddogion allweddol yn yr Adran Gyllid Corfforaethol.

 

Cymeradwywyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Martin White ac fe’u heiliwyd hwy gan Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r fersiwn derfynol o Ddatganiad Cyfrifon 2020/21;

 

(b)       Nodi cyflwyniad Archwilio Cymru ‘Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol y Gr?p 2020/21 - Cyngor Sir y Fflint’; ac

 

(c)       Cymeradwyo’r Llythyr Sylwadau.