Mater - cyfarfodydd

Feedback from the Ethical Liaison Meeting

Cyfarfod: 06/09/2021 - Pwyllgor Safonau (eitem 17)

17 Adborth o’r Cyfarfod Cyswllt Moesegol pdf icon PDF 81 KB

Darparu adborth o’r Cyfarfod Cyswllt Moesegol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad oedd yn rhoi adborth o’r ail gyfarfod cyswllt moesegol a gynhaliwyd ym mis Awst.

 

Roedd y cyfarfod wedi cael ei groesawu a chytunwyd ar ystod o gamau gweithredu i gefnogi’r ddyletswydd sydd ar ddod i Arweinwyr Grwpiau i helpu i hyrwyddo ymddygiad da gan Aelodau etholedig.  Roedd Arweinwyr Grwpiau wedi cytuno i gael cyfarfodydd pellach a byddai gofyn iddynt gymeradwyo maes llafur drafft o gamau gweithredu i gael eu cyflwyno ar gyfer y broses sefydlu Aelodau yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2022.

 

Siaradodd y Cadeirydd, Is-gadeirydd (Mark Morgan) a’r Cynghorydd Patrick Heesom – oedd yn bresennol – o blaid gwerth y cyfarfodydd cyswllt moesegol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan Mark Morgan a’i eilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Croesawu canlyniadau’r cyfarfod cyswllt moesegol a chytuno i gynnal trydydd cyfarfod yn y flwyddyn newydd.