Mater - cyfarfodydd

Boundary Commission for Wales:2023 Review of Parliamentary Constituencies

Cyfarfod: 22/07/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 22)

22 Comisiwn Ffiniau i Gymru: 2023 Adolygiad Etholaethau Seneddol pdf icon PDF 112 KB

Dweud wrth y Cyngor am y broses ar gyfer yr adolygiad o etholaethau’r Senedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ar y broses ar gyfer yr adolygiad ar y gweill o Etholaethau Seneddol Cymru. Darparodd wybodaeth gefndirol gan wneud sylwadau fod yna gynnydd disgwyliedig yn mynd i fod ym maint yr etholaethau lleol a bod yr adolygiad yn gyffredinol yn golygu lleihad sylweddol yn nifer yr etholaethau yng Nghymru (o 40 i 32 etholaeth). 

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts a’i eilio gan y Cynghorydd Patrick Heesom.  Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y broses i gael ei ddilyn yn ystod Comisiwn Ffiniau i Gymru; 2023 Adolygiad Etholaethau Seneddol yn cael ei nodi.