Mater - cyfarfodydd

Revenue budget monitoring 2021/22 (Interim)

Cyfarfod: 13/07/2021 - Cabinet (eitem 22)

22 2021/22 monitro cyllideb refeniw (Interim) pdf icon PDF 112 KB

Pwrpas:        Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r risgiau allweddol a’r problemau sy’n hysbys o ran sefyllfa derfynol y gyllideb refeniw ar gyfer 2021/22 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Johnson yr adroddiad a oedd yn rhoi'r trosolwg cyntaf o sefyllfa fonitro'r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22. Adroddwyd drwy eithriad ar amrywiadau arwyddocaol a allent effeithio ar sefyllfa ariannol 2021/22.

 

Yn seiliedig ar y lefel uchel o ragdybiaethau yn yr adroddiad, roedd yr amrywiadau posibl yn y gyllideb a ddynodwyd fesul Portffolio gyfwerth ag isafswm gofyniad gwariant net ychwanegol o £1m.

 

Byddai’r gallu i liniaru’r risgiau ariannol a gododd yn sgil y pandemig yn hanner cyntaf y flwyddyn yn dibynnu i raddau helaeth ar barhad arian caledi a cholled incwm gan Lywodraeth Cymru.  Ar y cam hwn roedd yn ansicr a fyddai’r Gronfa Caledi’n cael ei hymestyn y tu hwnt i fis Medi pe bai’r cyfyngiadau presennol cysylltiedig â’r pandemig yn parhau.  Ni chymerwyd unrhyw ystyriaeth o’r risgiau ariannol a fyddai’n codi pe na cheid unrhyw arian ychwanegol mewn sefyllfa o bandemig hirfaith.

 

Bydd adroddiad monitro manwl a chyflawn yn cael ei ddarparu ym mis Medi a fydd yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa ariannol gyffredinol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad a'r effaith ariannol amcangyfrifedig ar gyllideb ariannol 2021/22;

 

(b)       Cymeradwyo trosglwyddiad cyllidol o £0.175m rhwng Gwasanaethau Ardaloedd Lleol i Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig o fewn cyllideb brynu’r Gwasanaethau Pobl H?n, a throsglwyddiad cyllidol o £0.300 rhwng Gwasanaethau Ardaloedd Lleol i'r Gyllideb Gwasanaethau Iechyd Meddwl Preswyl; a

 

(c)        Cymeradwyo clustnodi arian o’r Gronfa Wrth Gefn at Raid ar gyfer Buddsoddi mewn Newid (£0.400m) a Thywydd Garw (£0.250m).