Mater - cyfarfodydd

Welfare Reform Update

Cyfarfod: 13/07/2021 - Cabinet (eitem 25)

25 Y Diweddaraf am Ddiwygio’r Gyfundrefn Les pdf icon PDF 187 KB

Pwrpas:        I gyflwyno diweddariad ar effaith Diwygio’r Gyfundrefn Les ar breswylwyr Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ac eglurodd bod y Cyngor, ar y cyd a’i bartneriaid, wedi bod yn gwneud gwaith i rwystro effeithiau llawn y diwygiadau lles rhag disgyn ar breswylwyr agored i niwed Sir y Fflint. Roedd yr adroddiad y ystyried sut y byddai’r Cyngor yn parhau i reoli effeithiau’r diwygiadau a gyflwynwyd dan ddarpariaethau Deddf Diwygio Lles a Gwaith 2016.

 

Cafwyd diweddariad ar yr effeithiau y mae diwygiadau lles yn parhau i’w cael ar drigolion Sir y Fflint a’r gwaith sy’n digwydd i’w lliniaru ac i gefnogi’r aelwydydd perthnasol.

 

Mae Covid-19 wedi effeithio’n arwyddocaol ar aelwydydd agored i niwed ac roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am amrywiaeth o fesurau a ddatblygwyd i helpu'r rhai hynny sydd wedi'u heffeithio gan y pandemig a'r gefnogaeth a roddwyd i drigolion er mwyn ceisio lliniaru'r effeithiau negyddol.

 

Tynnodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) sylw’r Aelodau at y manylion yn yr adroddiad yngl?n â: dileu’r cymhorthdal ystafell sbâr; y cap ar fudd-dal; credyd cynhwysol a’r effeithiau yr oedd y rhain wedi’u cael yn Sir y Fflint. Rhoddodd fanylion hefyd ar ddiweithdra yng Nghymru ac yn Sir y Fflint; y gwasanaeth help i hawlio; Credyd Cynhwysol – ‘ymfudo a reolir’; y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor; y cynllun cadw swyddi; taliad grant cymorth yn sgil cyfarwyddyd y gwasanaeth profi ac olrhain GIG i ynysu; taliadau bonws gofalwyr; gwasanaethau cymorth a thaliadau tai yn ôl disgresiwn.

 

Ychwanegodd nad yw Cymorth Cyllidebu Personol bellach yn cael ei ariannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Fodd bynnag, byddai cymorth lles a chyllidebu yn parhau i gael eu darparu gan y Tîm Diwygio Lles oherwydd yr adnoddau ychwanegol a gafwyd ar gyfer y ddwy flynedd nesaf ac mae pwysau ariannol pellach wedi'i amlygu ar gyfer blwyddyn tri.

 

Diolchodd yr aelodau i’r tîm am yr holl help a chefnogaeth a roddwyd i breswylwyr i rwystro gwaeth sefyllfaoedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r adroddiad gan gynnwys y gwaith parhaus i reoli'r effeithiau y mae'r  Diwygiadau Lles yn eu cael ac y byddant yn parhau i’w cael ar yr aelwydydd mwyaf diamddiffyn Sir y Fflint.