Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (Env &E )

Cyfarfod: 08/02/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 63)

63 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Mae’r cyfarfod am 10.00 am ar 8 Mawrth wedi’i newid i Sesiwn Friffio ar y System Hyblyg. Bydd cyfarfodydd nesaf y Pwyllgor ar 7 Mehefin a 5 Gorffennaf.

            Gan symud ymlaen at yr adroddiad ar olrhain camau gweithredu, darparodd yr Hwylusydd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu a chadarnhaodd y byddai’r eitem ar Farchnadoedd Canol Tref y Fflint a Bwcle yn aros ar yr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu. Cytunodd Rheolwr y Rhwydwaith Priffyrdd i siarad efo’r Cynghorydd Thomas ar ôl y cyfarfod yngl?n â’i bryderon am yr adolygiad o drefniadau torri gwair.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson a oes modd cynnwys eitem ar farciau strydoedd. Awgrymodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) ei fod yn siarad efo’r Cynghorydd Hutchinson ar ôl y cyfarfod i drafod y lleoliadau sy’n achosi problemau. Eiliodd y Cynghorydd Hardcastle gais y Cynghorydd Hutchinson i gynnwys hyn ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton ac Owen Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd;

 

(b)     Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd yn ôl yr angen; a

 

(c)     Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud gyda’r camau gweithredu sy’n weddill.