Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (Env &E )

Cyfarfod: 11/01/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 53)

53 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ddiweddaraf i’r Aelodau ei hystyried ac amlygodd yr eitemau i’w hystyried yn ystod y cyfarfod ar 8 Chwefror. Cyfeiriodd wedyn at gyfarfod 5 Gorffennaf gan gadarnhau y bydd yr eitem ar y Safle Tirlenwi Safonol, yn unol â chais y Cynghorydd: Hutchinson, yn cael ei thrafod yn y cyfarfod hwnnw. Gan symud at yr adroddiad ar Olrhain Camau Gweithredu darparodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sydd wedi’u cwblhau a’r rheiny sy’n dal ar y gweill.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Owen Thomas am y wybodaeth ddiweddaraf am broblemau sbwriel o lefydd bwyd. Mewn ymateb cadarnhaodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod y Cyngor yn parhau i lobio Llywodraeth Cymru i newid y ddeddfwriaeth. Cadarnhaodd, pan gafodd y Cydlynwyr Ardal wybod am y problemau, eu bod wedi ymweld â’r llefydd hyn i siarad gyda nhw.

 

            Roedd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd yn rhannu pryderon y Cynghorydd Thomas a chyfeiriodd at y cynnig a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru flynyddoedd yn ôl. Roedd y cynnig hwn yn amlygu’r un materion gydag awgrym y dylid tagio’r deunydd pacio mewn rhyw ffordd er mwyn gwybod o ble ddaeth. Yn y pen draw Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am newid y ddeddfwriaeth er mwyn i’r Cyngor orfodi pethau. Mae’r siopau bwyd cyflym yn ymwybodol o’r problemau ond nid ydynt yn gwneud unrhyw beth i leihau effaith sbwriel. Mae’r Cyngor yn gorfod delio â hynny.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd George Hardcastle yngl?n â chyllid ar gyfer croesfannau isel, cadarnhaodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth) fod adroddiad ar hyn yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor fis Chwefror. Nid oes cyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer hyn ond mae ceisiadau yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy’r gronfa Teithio Llesol, ond mae’r adnoddau’n gyfyngedig.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.

 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y’i diwygiwyd;

(b)     Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

(c)     Nodi cynnydd y camau gweithredu sydd ar y gweill.