Mater - cyfarfodydd

Corporate Recovery Risk Profile

Cyfarfod: 17/06/2021 - Pwyllgor Adfer (eitem 6)

6 Proffil Risg Adferiad Corfforaethol pdf icon PDF 91 KB

Pwrpas:        Derbyn cyflwyniad ar y Proffil Risg Adfer Corfforaethol sydd wedi’i ddiweddaru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ac Ymgynghorydd Perfformiad Strategol adroddiad diweddaru am Gofrestr Risg a Mesurau Lliniaru Adferiad Corfforaethol.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu), Rheolwr Cyllid Corfforaethol ac Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol drosolwg o’r prif newidiadau a’r materion presennol am risg ac adferiad o fewn eu portffolios perthnasol. Fe adroddwyd rhywfaint o welliant yn yr unig risg sy’n goch am effaith cynnydd ôl-ddyledion rhent ar sefydlogrwydd Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai. Fel risg parhaus, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gweithio gyda phob Cyngor yng Nghymru i gynllunio ar gyfer mesurau wrth gefn gan fod Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru yn nesáu at ei derfyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hilary McGuill y dylai perygl y modd y mae ysgolion yn gweithredu mewn modd gwahanol yn effeithio ar y gweithlu (CW20a) aros ar agor oherwydd y sefyllfa newidiol.  Dywedodd yr Uwch Reolwr bod hyn yn berthnasol pan fo ysgolion wedi bod ar gau a byddai’n parhau i gael ei adolygu. Roedd peryglon tebyg ar sefyllfaoedd newidiol gydag ysgolion (CW20 a CW24) yn parhau ar agor er mwyn adlewyrchu’r effaith ar rieni sy’n gweithio a’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.

 

Gan ymateb i sylwadau gan y Cadeirydd, roedd lefel y perygl ar y posibilrwydd o gostau cynyddol gan gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau (CF10) yn adlewyrchu tystiolaeth newydd am effaith dros dro ar gostau o fewn y diwydiant adeiladu sy’n cael eu monitro oherwydd ei effaith ar y Rhaglen Gyfalaf. Byddai’r geiriad am gamau lliniaru am y perygl mewn cysylltiad ag effaith ôl-ddyledion rhent cynyddol (CF14) yn cael ei ddiweddaru ar ôl y diweddariad a roddwyd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau, Tai ac Asedau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Vicky Perfect am y gefnogaeth ar gyfer iechyd a lles y gweithlu yn ystod yr argyfwng a rhoddwyd enghreifftiau iddi gan yr Uwch Reolwr am fentrau amrywiol.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Patrick Heesom a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett.

 

Cefnogodd y Pwyllgor awgrym y Prif Weithredwr bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariad llawn lle y bo’n bosibl ym mis Gorffennaf neu Awst cyn i beryglon penodol gael eu hadrodd i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, er enghraifft trwy eitemau rhaglen rheolaidd Monitro Cyllideb Refeniw a Gweithlu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r gofrestr risg ddiweddaraf a chamau lliniaru risg o fewn y portffolios corfforaethol.