Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (EY&C)

Cyfarfod: 16/09/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 17)

17 Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr adroddiad a chadarnhau bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol wedi’i phoblogi ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.  Tynnodd sylw’r Aelodau at yr adroddiad ar Addysg Ddewisol yn y Cartref, a drefnwyd i’w gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a ychwanegwyd at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, yn dilyn cais gan y Cynghorydd Gladys Healey yn y cyfarfod diweddar.   

 

Roedd yr Hwylusydd wedi awgrymu newidiadau i’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, oedd yn cynnwys diweddariad ar lafar yn y cyfarfod nesaf a fyddai’n cynnwys y risgiau portffolio a nodwyd gan y Pwyllgor Adfer o amgylch effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc ar eu hiechyd a’u lles emosiynol a gwytnwch mewn ysgolion tra’n rheoli nifer sylweddol o newidiadau.  Hefyd awgrymwyd bod adroddiad diweddariad ar ddarparu cynlluniau Chwarae Sir y Fflint yn llwyddiannus ac adroddiad ar Raglen Haf Llawn Hwyl Llywodraeth Cymru yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod mis Rhagfyr.    Roedd y Pwyllgor yn cefnogi ychwanegu’r eitemau a awgrymwyd. 

 

Roedd yr Hwylusydd hefyd yn darparu gwybodaeth ar ddau gam parhaus, fel yr amlinellwyd yn atodiad 2 o’r adroddiad. 

 

            Mewn ymateb i’r cwestiynau ar yr adroddiad ar Addysg Ddewisol yn y Cartref, roedd y Prif Swyddog wedi cadarnhau y byddai’r adroddiad yn darparu gwybodaeth am y nifer o ddisgyblion oedd yn derbyn addysg yn y cartref ar hyn o bryd ynghyd â Chyfrifoldebau Statudol y Cyngor a gorolwg o sut oedd y Gwasanaeth Lles Cynhwysiant yn rhyddhau swyddogaeth y Cyngor o ran y disgyblion hyn.  Byddai’r adroddiad hefyd yn darparu gorolwg eang o’r rhesymau pam bod rhieni wedi gwneud y penderfyniad i addysgu eu plant yn y cartref. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Tudor Jones.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)    Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 (b)    Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 (c)    Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.