Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyfarfod: 23/09/2022 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 23)
23 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 79 KB
Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Draft Forward Work Programme, eitem 23 PDF 75 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y rhaglen gwaith i’r dyfodol presennol a rhoddodd wybod bod eitem y Crwner a drefnwyd ar gyfer mis Hydref wedi cael ei symud i fis Rhagfyr.
Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd i’r Pwyllgor dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y flaenoriaeth hon a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru cyn diwedd y flwyddyn. Gan dynnu sylw at yr eitem gyllideb ar y rhaglen, gofynnodd a fyddai modd cynnwys ei awgrym blaenorol i ystyried cynnig contractau allanol neu rannu rhai o wasanaethau’r Cyngor i nodi unrhyw fuddion ariannol yn y rhaglen ar gyfer mis Hydref/Tachwedd. Cefnogodd ac eiliodd y Cynghorydd Attridge yr eitemau ychwanegol.
Cynigodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson y dylid cynnwys eitem ar y rhaglen i adolygu polisi’r Cyngor ar Adran 13A (isadran 1c) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn ymwneud â phwerau disgresiwn cynghorau i ostwng neu ddiddymu symiau Treth y Cyngor taladwy ar sail achosion unigol.
Cefnogwyd awgrym y Prif Weithredwr bod y Pwyllgor yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar Gyd-bwyllgorau Corfforedig ym mis Hydref.
Gan gynnwys yr eitemau ychwanegol hyn, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Richard Jones a Bernie Attridge.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a
(b) Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.