Mater - cyfarfodydd

Supplementary Financial Information to Draft Statement of Accounts 2020/21

Cyfarfod: 28/07/2021 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 16)

16 Gwybodaeth Ariannol Atodol i Ddatganiad Cyfrifon Drafft 2020/21 pdf icon PDF 107 KB

Darparu gwybodaeth ariannol atodol i’r Aelodau i gyd-fynd â’r datganiad cyfrifon drafft, yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd yn flaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol y wybodaeth ariannol atodol sy’n cyd-fynd â Datganiad Cyfrifon drafft 2020/21, yn unol â’r cais a wnaethpwyd yn y Rhybudd o Gynnig a gymeradwywyd gan y Cyngor yn 2013.

 

Wrth ddarparu cefndir i'r Rhybudd o Gynnig, rhoddodd y Prif Weithredwr enghreifftiau o rolau dros dro a adlewyrchir yn y costau a ddangoswyd a chadarnhaodd nad oedd unrhyw bryderon.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sally Ellis y dylid cefnogi’r argymhelliad ac eiliwyd hynny gan Martin White.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.