Mater - cyfarfodydd

Review of the Terms of Reference of the Audit Committee

Cyfarfod: 01/04/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 78)

78 Adolygiad o Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth i newid enw Pwyllgor Archwilio’r Cyngor a chynnwys swyddogaethau newydd yng nghylch gorchwyl presennol y Pwyllgor a ail-enwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i nodi’r newidiadau statudol i’r Pwyllgor Archwilio sydd i’w gweithredu o fis Ebrill 2021. Byddai’r enw’n cael ei newid i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, gyda swyddogaethau ychwanegol i’w cynnwys yn y Cylch Gorchwyl. Byddai newidiadau pellach i gyfansoddiad y Pwyllgor a ailenwyd yn cael eu cyflwyno o fis Mai 2022.

 

Ymgynghorwyd â’r Pwyllgor Archwilio a Phwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar yr adroddiad. Cyflwynwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan Gadeiryddion y Pwyllgorau hynny, y Cynghorwyr Chris Dolphin a Neville Phillips.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Richard Jones, cadarnhaodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog na fyddai unrhyw orgyffwrdd rhwng gwaith sy’n deillio o’r dyletswyddau newydd a rôl bresennol y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Tra mai rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio oedd asesu effeithiolrwydd systemau, byddai’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn parhau i archwilio meysydd yn fanylach ac yn monitro perfformiad. Byddai materion sy’n peri pryder a godwyd gan y Pwyllgor Archwilio yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol; arfer a atgyfnerthwyd drwy gr?p cydgysylltu sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Pwyllgorau hynny.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Mike Peers yngl?n â’r gofyniad i aelod lleyg gael ei benodi’n Gadeirydd y Pwyllgor a ailenwyd, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod manylion cyswllt yr holl aelodau cyfetholedig ar gael yn fewnol. Eglurodd fod y ddeddfwriaeth yn caniatáu i Aelod etholedig gael ei benodi’n Is-gadeirydd y Pwyllgor a ailenwyd.

 

Ar ôl cael ei gyflwyno a’i eilio, cafodd yr argymhelliad ei gyflwyno i’r bleidlais a’i gario.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod enw diwygiedig Pwyllgor Archwilio’r Cyngor yn cael ei gydnabod a bod y swyddogaethau newydd a nodir yn y Ddeddf yn cael eu cynnwys yng Nghylch Gorchwyl presennol y Pwyllgor a ailenwyd.