Mater - cyfarfodydd

Administration Strategy and Policy on the Overpayment and Underpayment of Pension Scheme Benefits.

Cyfarfod: 23/03/2021 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 138)

138 Strategaeth Weinyddu pdf icon PDF 121 KB

Rhoi Strategaeth Weinyddu ddrafft wedi’i diweddaru i Aelodau’r Pwyllgor ar gyfer ymgynghori â chyflogwyr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mr Latham yr adroddiad hwn drwy bwysleisio nad yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith i gael strategaeth weinyddu ond ei bod yn arfer dda, er fod Bwrdd Cynghori’r Cynllun wedi cynghori’r MHCLG yn ffurfiol dros y misoedd diwethaf y dylai strategaeth weinyddu fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Mae gan y Gronfa strategaeth weinyddu ers nifer o flynyddoedd.Nod y strategaeth yw amlinellu’r cyfrifoldebau ar gyfer y Gronfa a’i chyflogwyr.Nododd Mrs Williams fod y prif newidiadau’n ymwneud ag ymgorffori dulliau adrodd newydd gyda chyflogwyr, i gymryd lle’r Cytundebau Lefel Gwasanaeth presennol.Pwysleisiodd nad yw’r gofynion yn newydd ar y cyfan; yr hyn sy’n newid yw’r ffordd maen nhw’n cael eu cyfathrebu a’u hadrodd.Gobeithir y bydd y drefn newydd yn fwy hwylus ac effeithlon ar gyfer cyflogwyr a’r Gronfa, yn ogystal â helpu i ganfod yn gyflymach a oes gan gyflogwyr yr adnoddau a’r gallu i gyflawni eu cyfrifoldebau fel y gellir cynnig cymorth.Mae eitem 1.06 yn pwysleisio’r prif newidiadau yn y strategaeth.

 

            Gofynnodd Mr Latham a yw’r prif gyflogwyr e.e.y Cyngor a’r prif gyflogwyr eraill, yn barod i ddiwallu disgwyliadau’r Gronfa yn hyn o beth.Nododd Mrs Williams fod yr amserlenni targed yn rhywbeth yr oedd yn rhaid i gyflogwyr gydymffurfio â nhw yn y gorffennol.Serch hynny, gan nad yw’r tîm wedi darparu adroddiadau yn y gorffennol, roedd yn anodd cynnig sylw, gan nad yw’r cyflogwyr o reidrwydd yn gwybod a ydyn nhw’n cydymffurfio â’r amserlenni neu beidio.Bydd yr adroddiadau’n dangos os nad yw cyflogwyr yn llwyddo i gydymffurfio mewn unrhyw feysydd allweddol.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Bateman faint o gyflogwyr sydd gan y Gronfa.Cadarnhaodd Mrs Williams fod gan y Gronfa tua 50 o gyflogwyr.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Cafodd y Strategaeth Weinyddu newydd, sydd ynghlwm yn Atodiad 1, ei hystyried a’i chymeradwyo gan y Pwyllgor, yn amodol ar ymgynghori â’r rhanddeiliaid.

(b)  Penderfynodd y Pwyllgor y gellid dirprwyo mân newidiadau terfynol, yn dilyn ymgynghoriad, i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd a’r Rheolwr Gweinyddu Pensiynau, ac y dylid dod ag unrhyw newidiadau sylweddol yn ôl gerbron y Pwyllgor i’w hystyried.