Mater - cyfarfodydd

Review of the Council's Constitution / Audit Committee’s Terms of Reference

Cyfarfod: 24/03/2021 - Pwyllgor Archwilio (eitem 32)

32 Adolygiad o Gyfansoddiad y Cyngor / Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 87 KB

Ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Archwilio i newid enw Pwyllgor Archwilio’r Cyngor a chynnwys swyddogaethau newydd yng nghylch gorchwyl presennol y Pwyllgor a ail-enwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol adroddiad i nodi newid enw’r Pwyllgor Archwilio i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, gyda swyddogaethau ychwanegol i’w cynnwys yn y Cylch Gorchwyl.  Byddai adroddiad ar y newidiadau yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiadol cyn eu cymeradwyo gan y Cyngor Sir i’w gweithredu o fis Ebrill 2021.  Fel yr adroddwyd yn y cyfarfod blaenorol, byddai newidiadau pellach i gyfansoddiad y Pwyllgor a ailenwyd yn cael eu cyflwyno o fis Mai 2022.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan Sally Ellis, dywedodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y byddai amserlen yn cael ei pharatoi mewn cydweithrediad a’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i sicrhau fod y Pwyllgor wedi ei arfogi a’r wybodaeth a’r hyfforddiant angenrheidiol i gyflawni ei ddyletswyddau newydd. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau hyfforddiant ar y cyd gyda chynghorau eraill. Rhoddwyd eglurder hefyd i Allan Rainford yngl?n ag adroddiadau panel annibynnol ar asesiadau cyfoedion gyda chynghorau eraill o dan y dyletswyddau newydd.

 

Siaradodd y Cynghorydd Paul Johnson am yr angen i gynnwys agweddau llywodraethu yn yr hyfforddiant archwilio statudol a roddwyd i’r rhai ar y Pwyllgor. Cafodd hyn ei gydnabod gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) a gyfeiriodd at gyswllt gyda chynghorau eraill ar ddehongli cyson ar y gofynion newydd. Cytunwyd ar newid i’r geiriad yn adran 7.02 y Cylch Gorchwyl er mwyn eglurder.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Janet Axworthy gefnogi’r argymhelliad ac fe’i heiliwyd gan Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod enw diwygiedig Pwyllgor Archwilio’r Cyngor yn cael ei gydnabod a’r swyddogaethau newydd yn cael eu nodi yn y Ddeddf a gynhwysir yng Nghylch Gorchwyl y Pwyllgor a ailenwyd.