Mater - cyfarfodydd

Performance of the Welsh Housing Quality Standard (WHQS) Capital Programme – Assurance Report

Cyfarfod: 16/03/2021 - Cabinet (eitem 112)

112 Perfformiad Rhaglen Gyfalaf Safon Ansawdd Tai Cymru – Adroddiad Sicrwydd pdf icon PDF 152 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad ar berfformiad Safon Ansawdd Tai Cymru a’r gwaith a wnaed hyd yma.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad am gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.  Roedd y Cyngor yn ei gyflawni drwy ei Raglen Buddsoddi Cyfalaf ac yn canolbwyntio ar y cyflawniadau a wnaethpwyd hyd yn hyn.

 

Roedd y gwaith a wnaed drwy Safon Ansawdd Tai Cymru wedi trawsnewid stoc tai’r Cyngor ac wedi cyflawni gwelliannau sylweddol i ansawdd tu mewn a thu allan i dai’r tenantiaid.

 

Roedd buddsoddiad ariannol sylweddol wedi cael ei wneud bob blwyddyn ers cychwyn y rhaglen, ac o Ebrill 2021, byddai buddsoddiad ychwanegol o £21m yn cael ei wneud, gyda £14 ychwanegol yn cael ei roi tuag at y rhaglen adeiladu tai newydd.  Dros gyfnod y rhaglen, byddai’r contractwyr sydd ynghlwm wrth Safon Ansawdd Tai Cymru wedi creu hyfforddiant neu gyfleoedd swyddi i 57 prentis a oedd yn gyflawniad sylweddol.

 

Drwy gydol rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru, roedd lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid wedi bod yn gyson uchel.  96% oedd y lefel bodlonrwydd mwyaf diweddar.  Roedd hyn yn adlewyrchu ar waith caled y tîm.

 

Er bod heriau ac amhariadau penodol yn ystod y flwyddyn ariannol hon oherwydd y pandemig, roedd y Cyngor wedi parhau i gyflawni’r gwaith.  Roedd LlC wedi nodi’r heriau penodol hyn ac wedi cadarnhau eu bod yn cytuno i ymestyn y rhaglen am flwyddyn arall, a fyddai’n galluogi canolbwyntio ar feysydd allanol a gwaith a meithrin gwaith.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) mai’r her nesaf fyddai datgarboneiddio’r stoc tai, gan eu gwneud cyn effeithlon o ran ynni ac yn rhyddhau lefelau isaf posib o garbon.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r tîm oedd ynghlwm â’r gwaith, gan gynnwys LlC, a oedd wedi stopio gwerthiant tai’r Cyngor a oedd yn golygu bod y Cyngor yn cael cadw eu stoc a rheoli materion sy’n ymwneud â thai yn effeithiol. 

 

Roedd yr Aelodau hefyd o’r farn bod y wybodaeth gadarnhaol yn yr adroddiad yn dangos bod y tenantiaid wedi gwneud y penderfyniad cywir wrth bleidleisio i gadw’r stoc tai yn 2012.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cynnydd a wnaed i gyflawni rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru, a chefnogi’r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf yn ei blwyddyn derfynol.