Mater - cyfarfodydd
Transportation Tenders
Cyfarfod: 16/03/2021 - Cabinet (eitem 116)
Tendrau Cludiant
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymestyn tendrau cludiant i'r ysgol presennol am gyfnod o flwyddyn.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (116/2)
- Gweddarllediad ar gyfer Tendrau Cludiant
Cofnodion:
DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD I WYBODAETH) 1985 – YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD
PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig o dan baragraff(au) 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
116. TENDRAU CLUDIANT
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd bod tua 200 o dendrau cludiant ysgolion i fod i gael eu hadnewyddu ym mis Gorffennaf 2021.
Am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad, argymhellwyd y dylid ymestyn y contractau cludiant i'r ysgol am flwyddyn fel y byddai’r contractwyr mewn sefyllfa well i dendro am y gwaith.
PENDERFYNWYD:
Bod yr amserlen ddiwygiedig i ymestyn tendrau cludiant i’r ysgol presennol am flwyddyn yn cael ei chymeradwyo.