Mater - cyfarfodydd

Public Sector Internal Audit Standards

Cyfarfod: 24/03/2021 - Pwyllgor Archwilio (eitem 34)

34 Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus pdf icon PDF 89 KB

Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am ganlyniadau’r asesiad mewnol blynyddol mewn perthynas â chydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol ganlyniadau’r asesiad mewnol blynyddol o gydymffurfiaeth â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Roedd canlyniadau’r hunanasesiad mewnol ar gyfer 2020/21 a’r asesiad allanol a gyflawnwyd ar gyfer 2016/17 yn dynodi bod y gwasanaeth yn cydymffurfio â’r safonau ymhob maes arwyddocaol ac yn gweithredu’n annibynnol ac yn wrthrychol.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cynnydd r gamau i fynd i’r afael ag elfennau o gydymffurfiaeth rhannol ac un achos o ddiffyg cydymffurfiaeth.

 

Eiliwyd cynnig y Cynghorydd Paul Johnson i dderbyn yr adroddiad a’i ganfyddiadau gan y Cynghorydd Janet Axworthy.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad a’i ddarganfyddiadau am yr hunanasesiad.