Mater - cyfarfodydd
Public Sector Internal Audit Standards
Cyfarfod: 24/03/2021 - Pwyllgor Archwilio (eitem 34)
34 Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus PDF 89 KB
Rhoi gwybod i’r Pwyllgor am ganlyniadau’r asesiad mewnol blynyddol mewn perthynas â chydymffurfio â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Compliance checklist, eitem 34 PDF 356 KB
- Enc. 2 - QAIP actions, eitem 34 PDF 82 KB
- Enc. 3 - QAIP components, eitem 34 PDF 83 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol ganlyniadau’r asesiad mewnol blynyddol o gydymffurfiaeth â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Roedd canlyniadau’r hunanasesiad mewnol ar gyfer 2020/21 a’r asesiad allanol a gyflawnwyd ar gyfer 2016/17 yn dynodi bod y gwasanaeth yn cydymffurfio â’r safonau ymhob maes arwyddocaol ac yn gweithredu’n annibynnol ac yn wrthrychol. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cynnydd r gamau i fynd i’r afael ag elfennau o gydymffurfiaeth rhannol ac un achos o ddiffyg cydymffurfiaeth.
Eiliwyd cynnig y Cynghorydd Paul Johnson i dderbyn yr adroddiad a’i ganfyddiadau gan y Cynghorydd Janet Axworthy.
PENDERFYNWYD:
Fod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad a’i ddarganfyddiadau am yr hunanasesiad.