Mater - cyfarfodydd
Hwb Digital Programme
Cyfarfod: 18/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 46)
46 Rhaglen Ddigidol Hwb PDF 118 KB
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Ddigidol Hwb a chanlyniad yr asesiad i nodi lefelau mynediad i ddyfeisiau a band eang i ddysgwyr ar draws Sir y Fflint.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Hwb Programme Memorandum of Agreement, eitem 46 PDF 99 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Ddigidol Hwb
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd adroddiad a oedd yn rhoi manylion am sut y rhoddir rhaglen genedlaethol HWB ar waith yn ysgolion Sir y Fflint a’r gwaith sy’n cael ei wneud i gynyddu cymarebau dyfeisiau i ddisgyblion.
Yn ystod y pandemig, cyfathrebwyd â’r ysgolion yn rheolaidd a chynhaliwyd dadansoddiad o'r bylchau o ran y dyfeisiau a oedd ar gael. Roedd hyn yn cynnig gwybodaeth am faint o ddyfeisiau a oedd gan yr ysgolion yn barod, a oedd yn galonogol iawn, ond roedd angen mwy er mwyn bodloni’r fformiwla y cytunwyd arni gyda’r ysgolion. Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd fod angen 6,000 yn fwy o ddyfeisiau yn dilyn y cyflenwad diwethaf a roddwyd i ysgolion yn Ionawr a Chwefror a chadarnhaodd hefyd y disgwylir archeb Chrome Books gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai a fydd yn diwallu rhai o’r anghenion yn y dadansoddiad o'r bylchau.
Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan yr ysgolion am ddysgu cyfunol a dangoswyd dadansoddiad manwl yn adran 1.04 yr adroddiad. Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd fod dyfeisiau MiFi wedi eu caffael fel rhan o HWB a bod y rhain wedi cael eu rhoi i deuluoedd nad oedd â digon o gysylltiad Wi-Fi. Cyfeiriodd at Sefydliad Neumark a gefnogodd bob un o Awdurdodau Gogledd Cymru i gaffael 110 o ddyfeisiau eraill a chafodd tua 80 neu 90 o ddyfeisiau eu rhoi’n uniongyrchol i ysgolion lle roedd eu hangen. Bydd model cynaliadwy’n cael ei gyflwyno drwy’r fformiwla ariannu Ysgolion i sicrhau bod gan bob ysgol yr un offer gan y bydd angen i ysgolion nawr gynnal yr un lefel o ddyfeisiau, yn y gobaith y bydd gan yr holl ddysgwyr fwy o ddyfeisiau i wneud eu gwaith cartref.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at yr effaith ariannol ar ysgolion er mwyn diweddaru’r dyfeisiau’n barhaus a thalu am waith trwsio ayb a allai fod yn gostus yn y dyfodol. Deallai fod hyn yn cael ei ystyried fel dyraniad ar gyfer cyllid yn y fformiwla cyllideb ysgolion a gofynnodd a yw'r ysgolion yn ymwybodol o’r goblygiadau o ran cost. Wrth ymateb, dywedodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei roi i Ysgolion gan y byddai dyfeisiau digidol nawr yn rhan allweddol o addysg disgyblion ac offer digidol yw’r adnodd newydd y mae angen i ysgolion gyllidebu ar ei gyfer. Bydd hyn yn cael ei drafod ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Fforwm Cyllideb Ysgolion.
Gofynnodd y Cynghorydd Smith am eglurder ar Rwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA). Wrth ymateb, dywedodd y Prif Swyddog mai hwn yw rhwydwaith y rhyngrwyd sy’n teithio drwy rwydwaith y cyngor i ysgolion er mwyn sicrhau bod y waliau tân yn cael eu cynnal, ynghyd â chyflymder y rhyngrwyd. Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Dysgu Cynradd fod hyn yn cael ei fonitro gan adran TG y Cyngor a bod gan fwyafrif yr ysgolion gapasiti digonol yn ystod y cyfnod clo. Os byddai unrhyw broblemau gyda’r lled band a ddefnyddiwyd gan ysgolion i gyflwyno gwersi, cadarnhaodd y Prif Swyddog y gallai ysgolion uwchgyfeirio hyn ... view the full Cofnodion text for item 46