Mater - cyfarfodydd

Strategic Equality Plan Annual Report 2019/20

Cyfarfod: 16/02/2021 - Cabinet (eitem 94)

94 Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019/20 pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad sy’n cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2019/20 y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, a oedd ynghlwm â’r adroddiad.

 

            Cyhoeddodd y Cyngor ei amcanion cydraddoldeb a’i Gynllun Cydraddoldeb Strategol dros bedair blynedd yn Ebrill 2016, i ddiwallu gofynion Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus fel y’u hamlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Nod yr amcanion cydraddoldeb yw mynd i’r afael â'r materion mwyaf arwyddocaol a meysydd anghydraddoldeb sy’n wynebu pobl o grwpiau a ddiogelir (pobl sy’n rhannu un neu ragor o nodweddion a ddiogelir megis oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol).

 

            Esboniodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol fod y dyletswyddau penodol ar gyfer Cymru yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn galw am adroddiad blynyddol ar y cynnydd i ddiwallu Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, a diwallu’r amcanion a amlinellir yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol, i'w gyhoeddi erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn. Roedd yr adroddiad yn amlygu cynnydd y Cyngor i roi’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar waith a diwallu’r amcanion cydraddoldeb yn ystod 2019/20.

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Jones, dywedodd yr Ymgynghorydd Polisi Strategol y byddai manylion o’r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) a’r lluoedd arfog yn cael eu bwydo i Gyfamod y Lluoedd Arfog. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Bithell sylw ar droseddau casineb a phwysleisiodd mor bwysig yw sicrhau bod llywodraethau cenedlaethol yn arwain ar sut i’w rheoli, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

            PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Sicrhau'r Cabinet y gwnaed cynnydd yn ystod y flwyddyn i

ddiwallu’r dyletswyddau statudol; a

 

             (b)      Chadarnhau’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019/20, cyncyhoeddi’r adroddiad blynyddol ar wefan y Cyngor.