Mater - cyfarfodydd

North Wales Dementia Strategy and the Flintshire Local Strategy

Cyfarfod: 04/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 36)

36 Strategaeth Dementia Gogledd Cymru a Strategaeth Lleol Sir y Fflint pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad ar gynnydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad i roi’r newyddion diweddaraf am ddatblygu strategaeth ar gyfer gwasanaeth gofal a chefnogaeth i bobl sy’n byw gyda dementia yn Sir y Fflint. Rhoddodd drosolwg o’r gefnogaeth a gweithgareddau niferus sy’n cael eu cynnal yn Sir y Fflint i wella bywydau pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.Fe soniodd hefyd am y gwaith cydweithio, codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant y mae’r Cyngor wedi’i wneud gyda sefydliadau, busnesau, eglwysi, ysgolion, cartrefi gofal a nyrsio lleol.Fe soniodd yr Aelod Cabinet am heriau pandemig Covid-19 a dywedodd bod ffyrdd newydd ac arloesol o weithio ac o gadw cysylltiad wedi cael eu croesawu er mwyn sicrhau nad yw pobl a’u gofalwyr yn cael eu hynysu ac yn parhau i gael eu cynnwys a derbyn gofal a chefnogaeth.  

 

Cyfeiriodd yr Uwch-reolwr Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion at y strategaeth dementia rhanbarthol a chynllun gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), a dywedodd mai’r bwriad oedd cynnwys rhai elfennau o’r strategaethau hynny mewn i’r cynllun gweithredu lleol ar gyfer Sir y Fflint. Dywedodd y byddai cyllid y cynllun gweithredu dementia oedd yn rhan o raglen Cronfa Gofal Integredig yn parhau.Fe gyflwynodd y Swyddog Arweiniol Lles a Phartneriaeth a gyflwynodd yr adroddiad.

 

Fe soniodd y Swyddog Arweiniol Lles a Phartneriaeth am ddyfodol a blaenoriaethau wrth symud ymlaen, cychwyn prosiectau a syniadau newydd, cyfle ar gyfer strategaeth rhanbarthol a rhannu arfer orau gydag awdurdodau eraill. Dywedodd bod y Cyngor yn ymrwymedig i gael ei strategaeth dementia ei hun ar gyfer Sir y Fflint a dywedodd y byddai’r blaenoriaethau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd a’u diweddaru a’u gosod gan weithwyr Gofal Cymdeithasol ac Iechyd proffesiynol, pobl oedd â phrofiad o ddementia, a grwpiau cymunedol, a sefydliadau trydydd sector. Fe soniodd am y prif themâu yn y Strategaeth Rhanbarthol, sef iechyd a chymuned oedd yn canolbwyntio ar ofal cymdeithasol (fel y manylir yn yr adroddiad).  

 

Cyfeiriodd y Swyddog Arweiniol hefyd at y prif flaenoriaethau ar gyfer Strategaeth Dementia Sir y Fflint oedd i’w gweld ym mharagraff 1.04 yr adroddiad.Dywedodd bod y Strategaeth yn ei ffurf drafft ar hyn o bryd a bod ymgynghori a chydweithio wedi digwydd gyda budd-ddeiliaid allweddol.Byddai’r Strategaeth gyflawn yn cael ei dilysu gyda Gr?p Llywio Strategaeth Dementia Rhanbarthol ym mis Mawrth 2021 er mwyn ei chyhoeddi a gweithredu’r prif gamau gweithredu o fis Ebrill 2021.

 

Fe soniodd yr Uwch-reolwr Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion am flaenoriaeth newydd sydd yn ymwneud â chefnogaeth min nos ar gyfer gofalwyr sy’n edrych ar ôl pobl gyda dementia, y gofal estynedig, a’r gefnogaeth ar gyfer gofal diwedd oes.

 

Gan ymateb i sylw gan y Cadeirydd yngl?n â dryswch y gallai rhywun gyda dementia ei gael oherwydd y nifer uchel o weithwyr gofal sydd yn rhan o’u gofal, fe eglurodd yr Uwch-reolwr Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion bod y Cyngor ac asiantaethau eraill wedi cyflwyno mesurau i helpu i feithrin perthynas rhwng y defnyddiwr gwasanaeth, eu gofalwr a’r gweithiwr gofal.Fe gyfeiriodd at ddefnyddio lluniau o weithwyr gofal a  ...  view the full Cofnodion text for item 36