Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking (CH & E)
Cyfarfod: 23/02/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 43)
43 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB
Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Draft Forward Work Programme, eitem 43 PDF 68 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Community Housing & Assets OSC, eitem 43 PDF 46 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddiweddaraf a chadarnhaodd un diwygiad i’r rhestr o eitemau sydd wedi’u trefnu i gael eu cyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 10 Mawrth. Byddai’r wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Adfer yn cael ei chyflwyno, a fyddai’n rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ers i’r diweddariad diweddaf gael ei ystyried ym mis Rhagfyr, 2020.
Cadarnhaodd yr Hwylusydd na wnaeth unrhyw gamau godi o’r cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 20 Ionawr, ac roedd pob cam gweithredu a oedd wedi codi o gyfarfodydd blaenorol wedi’u cwblhau, fel a ddywedwyd wrth y Pwyllgor eisoes.
Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Mared Eastwood a’u heilio gan y Cynghorydd Ron Davies.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; ac
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.