Mater - cyfarfodydd
Overview of Ethical Complaints
Cyfarfod: 01/03/2021 - Pwyllgor Safonau (eitem 42)
42 Trosolwg o Gwynion Moesegol PDF 83 KB
Pwrpas: Bod y Pwyllgor yn nodi'r nifer a'r mathau o gwynion.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Overview of Ethical Complaints, eitem 42 PDF 258 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Trosolwg o Gwynion Moesegol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro’r adroddiad a oedd yn darparu crynodeb o’r cwynion moesegol a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a oedd yn honni bod y Cod wedi’i dorri. Yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor, roedd y cwynion yn gwahaniaethu rhwng y Cynghorau a’r Cynghorwyr gwahanol tra’n parhau i fod yn ddienw.
Roedd yr adroddiad yn darparu dealltwriaeth o’r nifer a’r mathau o gwynion a oedd yn cael eu gwneud, a chanlyniad yr ystyriaeth gan Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Eglurodd y Swyddog Monitro fod y ffigyrau yn yr adroddiad yn anghywir ac y dylent ddarllen; “ers yr adroddiad diwethaf ym mis Tachwedd 2020, derbyniwyd 10 cwyn. Roedd tair cwyn wedi’u datrys ers yr adroddiad hwnnw, ac roedd saith yn weddill.” Fel yn yr adroddiadau blaenorol, roedd un Cyngor yn wynebu’r rhan fwyaf o’r cwynion ac roedd y Swyddog Monitro wedi ymgysylltu’n ddiweddar ag Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fel hwylusydd allanol mewn ymgais i wella’r sefyllfa o fewn y Cyngor hwnnw. Roedd diweddariad pellach ar gael, gan fod chwech o’r saith cwyn wedi’u datrys ers i’r rhaglen gael ei dosbarthu.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r nifer a’r math o gwynion.