Mater - cyfarfodydd
Empty Homes Purchase
Cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet (eitem 85)
Prynu Cartrefi Gwag
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth brys i brynu hyd at 10 uned o lety i fod yn rhan o Stoc Tai Cymdeithasol y Cyngor, a’u reoli fel ‘llety dros dro’ gan y Tîm Digartrefedd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i ddatblygu'r gwaith o brynu ac adnewyddu eiddo gwag i gefnogi Cynllun Digartrefedd Cam 2 drwy ddod ag anheddau gwag yn ôl i ddefnydd a chynyddu'r cyflenwad o dai ar gyfer y 'garfan covid i'r digartref'.
Sicrhawyd grant Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithgarwch refeniw a chyfalaf i gefnogi'r gwaith o gyflawni Cynllun Digartrefedd Cam 2 Sir y Fflint ac roedd y grant ar gyfer cynyddu capasiti a gwella safonau portffolio llety dros dro Sir y Fflint.
Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd, amlinellodd y Prif Weithredwr yr arbedion cost o ddefnyddio llety dros dro ac felly roedd prynu'r eiddo yn werth da fel rhan o'r prosiect buddsoddi i arbed.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn cymeradwyo prynu'r eiddo fel y nodir yn yr adroddiad; a
(b) Bod y Cabinet yn darparu awdurdod dirprwyedig i'r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) mewn ymgynghoriad â'r Aelod Cabinet dros Dai i brynu eiddo gwag pellach drwy gyllid Digartrefedd Cam 2 a ddyfarnwyd i'r Cyngor gan Lywodraeth Cymru pan gaiff ei nodi.