Mater - cyfarfodydd

Performance of the Welsh Housing Quality Standard (WHQS) Programme

Cyfarfod: 10/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 48)

48 Adfywio'r Stoc Tai Bresennol pdf icon PDF 153 KB

Pwrpas:        Amlinellu’r gwaith a wneir i adfywio stoc tai bresennol y Cyngor.  

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac asedau) adroddiad er mwyn darparu diweddariad ar gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) yr oedd y Cyngor yn ei ddarparu drwy ei Raglen Buddsoddi Cyfalaf.  Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y llwyddiannau a’r daith hyd yma.  Eglurodd y byddai’r Rhaglen Waith WHQS wedi cyrraedd ei blwyddyn olaf (2020-2021) o’r Rhaglen Gyfalaf chwe blynedd, ond fe’i hestynnwyd am flwyddyn arall oherwydd effaith pandemig Covid.  Roedd yr adroddiad yn ddiweddariad ar yr hyn oedd wedi ei gyflawni a sydd i’w gyflawni cyn y terfyn amser estynedig yn Rhagfyr 2021.

 

Darparodd Uwch Reolwr Tai ac Asedau wybodaeth gefndirol a chyflwynodd ystyriaethau allweddol fel y manylwyd ar hynny yn yr adroddiad.   Dywedodd bod yna nifer o eiddo ble nod oedd y Cyngor yn gallu darparu’r WHQS oherwydd, am amrywiaeth o resymau, ni roddodd y tenantiaid ganiatâd i’r gwaith gael ei wneud, ond pan fo’r eiddo yn dod yn wag, roedd y gwaith yn cael ei wneud er mwyn codi’r eiddo i’r safon ofynnol.  O 23 Mawrth 2020 daeth yr holl waith WHQS ar eiddo’r cyngor ac ardaloedd cymunol i ben, gyda’r adnoddau yn cael eu canolbwyntio ar eiddo oedd yn cael eu cau/cwblhau’n ddiogel a sicrhau bod yr holl denantiaid a gwaith yn cael ei gadael yn ddiogel.  O ran elfen gyfalaf y gwaith, parhaodd yr holl waith ymatebol, brys a chydymffurfiaeth.  Ar ôl llacio’r cyfyngiadau clo a chyhoeddi mwy o ganllawiau ar 14 Mehefin 2020, cymerwyd mwy o gamau.  Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru (LlC) ar effaith y pandemig ar raglen WHQS.

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau bod y Gwasanaeth wedi bod yn destun archwiliadau ac adolygiadau ar berfformiad y Cyngor o ran darparu’r WHQS.  Rhoddodd sicrwydd bod Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) ac Archwilio Mewnol wedi canfod bod y Cyngor yn gwneud cynnydd da tuag at gyrraedd WHQS ac ni chodwyd unrhyw faterion sylweddol.  Adroddodd hefyd bod yr archwiliadau wedi nodi bod tenantiaid y Cyngor yn fodlon ag ansawdd y gwaith a wnaethpwyd ar eu cartrefi a dywedodd bod Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid WHQS ar 96% (yr uchaf hyd yma). 

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau bod LlC wedi ymrwymo i greu sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 ac i gydlynu camau er mwyn helpu meysydd eraill yr economi i roi’r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil.  Roedd Deddf Yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i LlC leihau allyriadau nwyon t? gwydr (GHG) yng Nghymru o 80% o leiaf erbyn 2050, gyda system o dargedau allyriadau interim a chyllidebau carbon.  Byddai’n ofynnol i’r Cyngor sicrhau bod ei gartrefi yn cyflawni’r lefel uchaf posibl o ran effeithiolrwydd thermol a pherfformiad ynni (EPC lefel A) erbyn 2030.  Fel rhan o’r WHQS, ar hyn o bryd mae’n ofynnol i eiddo’r Cyngor fodloni isafswm o SAP 65 (EPC Lefel D).  Mae trafodaethau â LlC yn parhau ynghylch y gofyniad i gaffael a chyflawni rhaglen ôl-osod fawr.  Yn ystod y 12 mis nesaf bydd swyddogion yn darparu cynlluniau fel rhan o’r rhaglen reoli asedau  ...  view the full Cofnodion text for item 48