Mater - cyfarfodydd

Recyclable materials and the impact of the Pandemic on volumes and resale values

Cyfarfod: 09/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 48)

48 DEUNYDDIAU Y GELLIR EU HAILGYLCHU AC EFFAITH Y PANDEMIG AR Y NIFEROEDD A GWERTHOEDD AILWERTHU pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Derbyn adroddiad ar gynnydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) a esboniodd y gofynnwyd am y wybodaeth hon gan y Pwyllgor i ddeall yr effaith helaeth yr oedd y pandemig wedi'i hachosi ar faint o ddeunyddiau a gasglwyd a'r gwerthoedd a gafwyd am y deunydd. Yna darparodd y Prif Swyddog wybodaeth fanwl am yr effaith gadarnhaol ar ailgylchu, a oedd wedi cynyddu 25%, a chasgliadau gwastraff bwyd a oedd wedi cynyddu o 10%. Yr effaith negyddol oedd bod gwastraff gweddilliol wedi cynyddu 7%, ac oherwydd bod safleoedd HRC wedi cau a chasgliadau gwastraff gardd wedi’u hatal dros dro, cafwyd effaith ar berfformiad ailgylchu cyffredinol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai'r perfformiad ailgylchu yn debygol o aros yr un fath ar oddeutu 66% a rhoddodd wybodaeth am darged LlC o 70% ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25. Cadarnhaodd y byddai hyn yn cael ei ddwyn yn ôl i'r pwyllgor ym mis Mehefin gyda'r Ymgyrch newydd, sef “Targed 70” i annog mwy o ailgylchu. Cyfeiriodd hefyd at yr ymgyrch deledu a chyfryngau newydd gan LlC o’r enw “Mighty Recycler” a fyddai’n cychwyn mewn cwpl o wythnosau i ymgysylltu â’r cyhoedd. Yna rhoddodd wybodaeth am yr effaith ariannol ar brisiau plastigau a'r pwysau sy'n deillio o hynny ar y gwasanaeth. Roedd LlC wedi bod yn gefnogol iawn gyda Sir y Fflint yn un o'r cynghorau cyntaf yng Nghymru i gyflwyno cais am y gronfa caledi oherwydd cyfanswm y tunellau ychwanegol a cholled incwm, yn ogystal â gorwariant y gwasanaeth wedi gostwng dros y blynyddoedd oherwydd cefnogaeth LlC.

 

            Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog at 1.08 yn yr adroddiad i roi sicrwydd i’r Aelodau o ran pryderon gyda Brexit a mynediad i farchnadoedd Ewropeaidd ar gyfer cynhyrchion ailgylchu. Cadarnhaodd fod mynediad ar gael o hyd ond, ar hyn o bryd, roedd ein holl ddeunyddiau ailgylchu yn cael eu dosbarthu i fasnachwyr yn y DU gyda chyrchfannau terfynol yn cael eu monitro a'u hadrodd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Hardcastle at gyfarfod Cyngor Cymunedol Penarlâg y noson flaenorol lle trafodwyd y materion parcio yn Yowley Road a Crossways yn Ewlo. Roedd Wagenni yn ei chael hi'n anodd llywio drwy'r ceir ac yn arwain at fethu casgliadau. Gofynnodd pa weithdrefnau oedd ar waith yn y sefyllfa hon i gasglu'r deunydd ailgylchu.  

Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod hwn yn broblem gyffredin ym mhob ward gyda mwy o geir wedi'u parcio gan fod pobl yn gweithio gartref, a bod hyn yn dod yn fater mawr i'r gwasanaeth.Roedd yn rhaid casglu’r deunydd ailgylchu ac nid bai’r preswylwyr oedd eu bod yn gweithio gartref. Adroddwyd am lythyrau a gafodd eu postio i annog preswylwyr i symud eu ceir ar ddiwrnodau casglu. Roedd cerbydau llai yn cael eu defnyddio ond roedd cost i hyn ac roedd yn fwy cost effeithiol casglu gyda'n cerbydau mwy. Cytunodd i roi adborth yn ôl i'r tîm ac anfon e-bost at y cynghorydd yng Nghyngor Cymunedol Penarlâg.   

Gwnaeth yr Aelod Cabinet sylwadau ar y ffigurau ailgylchu gan ddweud bod swm yr ailgylchu  ...  view the full Cofnodion text for item 48