Mater - cyfarfodydd
Welsh Government consultation on the proposed Housing Revenue Manual
Cyfarfod: 20/01/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 34)
34 Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch y Llawlyfr Refeniw Tai arfaethedig PDF 103 KB
Pwrpas: Ceisio adborth y Pwyllgor Craffu ar y Llawlyfr Refeniw Tai er mwyn ein cynorthwyo i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad oedd yn gofyn am adborth ar y Llawlyfr Cyfrif Refeniw Tai drafft. Datblygwyd y llawlyfr gan Lywodraeth Cymru i roi arweiniad i gynghorau a sicrhau eglurder a chysondeb o ran yr opsiynau wrth weithredu’r Cyfrif Refeniw Tai. Byddai adborth y Pwyllgor yn helpu i lywio ymateb ffurfiol y Cyngor i'r ymgynghoriad.
Cytunwyd fod Aelodau'n cyfeirio unrhyw sylwadau ysgrifenedig yn uniongyrchol at y Prif Swyddog i fod yn rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Gay a’r Cynghorydd Lloyd.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi'r adroddiad; a
(b) Bod Aelodau'r Pwyllgor yn anfon sylwadau'n uniongyrchol at y Prif Swyddog (Tai ac Asedau), er mwyn llywio ymateb y Cyngor i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.