Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 02/06/2021 - Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (eitem 11)

11 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 81 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i'w hystyried, gan gynnwys cynigion ers yr adroddiad diwethaf.

 

Cyfeiriodd Sally Ellis at rai eitemau yn yr adroddiad Tracio Camau Gweithredu a oedd angen eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor. Cytunodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y dylid cynnwys eitemau yn y rhaglen gwaith i'r dyfodol lle bo hynny’n bosibl, gan nodi bod rhai ohonyn nhw’n barhaus.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Joe Johnson a Martin White.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; ac

 

 (b)      Awdurdodi’r Rheolwr Archwilio Mewnol, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.