Mater - cyfarfodydd

School Admission Arrangements 2022/23

Cyfarfod: 16/03/2021 - Cabinet (eitem 114)

114 Trefniadau Derbyn i’r Ysgol 2022/23 pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Cynghori ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol ar y trefniadau derbyn ar gyfer mis Medi 2022 ac argymell cymeradwyaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn darparu manylion am ganlyniadau’r ymarfer ymgynghori statudol am drefniadau derbyn ar gyfer mis Medi 2022.

 

            Cynhaliwyd y broses ymgynghori rhwng 11 Rhagfyr 2020 a 29 Ionawr 2021 ac ni chafwyd unrhyw sylwadau.  Nid oedd unrhyw newidiadau i’r trefniadau derbyn arfaethedig.  Roedd yr amserlen derbyn arfaethedig wedi’i llunio wrth ymgynghori gyda’r awdurdodau cyfagos ac roedd yn ystyried ffactorau fel rhoi digon o amser i rieni ymweld ag ysgolion a nodi eu dewisiadau a’r amser oedd ei angen i brosesu ceisiadau. Roedd yr amserlen hefyd yn ymgorffori’r “dyddiad cynnig cyffredin” a nodwyd gan y Cod Derbyn i Ysgolion.

 

            Fel rhan o’r ymgynghoriad, gofynnwyd i Benaethiaid a fu unrhyw newidiadau i’w hadeiladau a allai olygu bod angen adolygu eu Niferoedd Derbyn.  Ni chafwyd unrhyw geisiadau i wneud hynny felly nid oedd unrhyw newidiadau yn cael eu cynnig mewn perthynas â’r Niferoedd Derbyn ar gyfer 2022/23.

 

            Roedd y Cynghorydd Roberts yn erfyn ar rieni a gofalwyr i sicrhau eu bod yn llenwi eu ffurflenni cais erbyn y dyddiad cau, gan ychwanegu bod 96% o blant ysgol yn cael lle yn eu dewis ysgol cyntaf.  Eglurodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod ysgolion yn cynorthwyo rhieni a gofalwyr gyda’r broses honno drwy ddarparu manylion am y dyddiadau cau iddynt.  Roedd cefnogaeth yn cael ei gynnig i helpu unrhyw un lenwi’r ffurflenni petai angen hefyd.  Wrth ateb cwestiwn, eglurodd y Prif Swyddog bod y polisi derbyn yn egluro meini prawf y polisi cludiant i'r ysgol ac roedd rhaid i’r rhieni a’r gofalwyr gydnabod hyn cyn cyflwyno’r ffurflen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer 2022/23.