Mater - cyfarfodydd

Action Tracking

Cyfarfod: 08/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 14)

14 Olrhain Gweithred pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad diweddaru yn nodi cynnydd ar gamau gweithredu o’r cyfarfodydd blaenorol a dywedodd fod y sesiwn briffio gyda’r nos ar ailgylchu wedi ei symud.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod adroddiad Archwilio Cymru ar Gynaliadwyedd Ariannol ac eitem Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar y trywydd iawn ar gyfer mis Medi. O ran yr olaf diolchodd i aelodau am eu presenoldeb yng nghyfarfod diweddar y cyd bwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Geoff Collett a Sean Bibby.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.