Mater - cyfarfodydd

Revenue budget monitoring 2020/21 (month 10)

Cyfarfod: 11/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 70)

70 Monitro cyllideb refeniw 2020/21 (mis 10) pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am sefyllfa fonitro Cyllideb Refeniw 2020/21 ym Mis 10.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 10 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.  Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol petai pethau’n parhau heb eu newid gan ystyried y sefyllfa ddiweddaraf o ran cyhoeddiadau Cyllid Grant Argyfwng Llywodraeth Cymru (LlC).

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i leihau pwysau costau a gwella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd - yn warged gweithredol o £0.924 miliwn, gan adael balans cronfa wrth gefn a ragwelwyd o £2.339 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Nid oedd yr amcanestyniad hwn yn cynnwys effaith y dyfarniad cyflog i’w dalu gan arian wrth gefn. Roedd y prif resymau dros y symud ffafriol o £0.552 miliwn o Fis 9 wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am y risgiau ariannol allweddol a risgiau ychwanegol am brydau ysgol am ddim ac effaith tywydd garw, yn ogystal â’r sefyllfa ar gyflawniad arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn fel y nodwyd yn yr adroddiad. O ran cronfeydd wrth gefn na chlustnodwyd, nodwyd bod trafodaethau ar gymhwyster rhai o’r hawliadau cyllid grant yn parhau gyda Llywodraeth Cymru.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai tanwariant arfaethedig o £1.642 miliwn yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo o £3.651 miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau a argymhellwyd ar wariant.

 

Mynegodd y Cynghorydd Richard Jones bryderon yngl?n â goblygiadau’r cyfraniad llai gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr tuag at y pecynnau gofal a ariennir ar y cyd; dywedodd y dylai cytundebau gael eu herio er mwyn rhwystro’r Cyngor rhag gorfod canfod mesurau lliniaru i ddygymod â cholledion o’r fath. Disgrifiodd y Rheolwr Cyllid y broses ar gyfer cytuno ar drefniadau cyd ariannu a’r heriau o ran amcanestyniadau cywir at ddibenion y gyllideb. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y gallai mwy o wybodaeth am y rheswm dros y gwahaniaeth gael ei phenderfynu a’i rhannu yn y cyfarfod nesaf.

 

O ran y newidiadau sylweddol, gofynnodd y Cynghorydd Jones bod hawliadau’r Gronfa Galedi yng Ngwasanaethau Stryd a Chludiant yn cael eu gwahanu ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol. Gofynnodd hefyd am y cynnydd ymddangosiadol mewn risg a oedd wedi arwain at gyfraniad ychwanegol ar gyfer darpariaeth dyled ddrwg gorfforaethol. Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y sefyllfa wedi cael ei heffeithio gan benderfyniadau a wnaed ar ddiogelwch gorfodaeth dyledion oherwydd yr argyfwng cenedlaethol. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ei bod yn gwneud synnwyr i’r Cyngor roi cyfraniadau digonol o’r neilltu fel rhan o’r broses gyfrifyddu ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Gan siarad i gefnogi pryderon y Cynghorydd Jones am becynnau gofal a ariennir ar y cyd, nododd y Cynghorydd Ian Roberts gostau cynyddol darparwyr gofal fel ffactor. Awgrymodd y gallai’r Pwyllgor ddymuno i wneud cais am adroddiad mwy manwl ar y mater. Awgrymodd y Cadeirydd ei bod yn briodol i gyfeirio’r pwnc i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a  ...  view the full Cofnodion text for item 70