Mater - cyfarfodydd

Blended Learning

Cyfarfod: 17/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 24)

24 Dysgu Cyfunol pdf icon PDF 92 KB

Darparu trosolwg o waith ysgolion, GwE a'r Portffolio i gynnal darpariaeth addysgol o safon yn ystod y pandemig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Jane Borthwick i’r cyfarfod. Mae hi ar secondiad gyda’r portffolio Addysg i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i ymgymryd â rôl Prif Ymgynghorydd Dysgu. Fe groesawodd David Edwards a Martyn Froggett o GwE i’r cyfarfod hefyd.

 

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad dysgu cyfunol, gan ddweud bod pandemig Covid-19 wedi cyflymu’r broses o gyflwyno dull dysgu cyfunol yn ysgolion Sir y Fflint. Cafwyd trosolwg yn yr adroddiad o gynnydd dysgu cyfunol, ac yn atodiadau’r adroddiad ceir amlinelliad o arferion da ar draws ysgolion Sir y Fflint.

 

            Roedd y Prif Swyddog yn gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth a ddarparwyd i staff a dysgwyr gan Wasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) gan alluogi staff yn yr ysgolion i wella eu sgiliau digidol, eu gwybodaeth o’r ffyrdd gwahanol y gellir cyflwyno dysgu ac amrywiaeth y platfformau dysgu sydd ar gael. Yn yr adroddiad, rhoddwyd trosolwg o sut mae’r dull yma wedi datblygu ers mis Mawrth 2020 a’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y buddsoddiad sylweddol o £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru (LlC) trwy’r Rhaglen Hwb a’r gefnogaeth a roddwyd i ddysgwyr oedd heb declynnau electronig neu fand eang trwy’r Hwb a’r Cyngor i’w galluogi i gael gafael ar yr hyn sydd ar-lein.

 

            Cafwyd cyflwyniad manwl yn trafod y meysydd canlynol gan David Edwards a Martyn Froggett:       

·         Dysgu Cyfunol

·         Pam canolbwyntio ar Ddysgu Cyfunol r?an?

·         Beth yw Dysgu Cyfunol?

·         Y pedwar egwyddor

·         Yn ymarferol, beth mae Dysgu Cyfunol yn ei olygu?

·         Y camau nesaf

·         Dysgu Cyfunol mewn ysgolion uwchradd

·         Cynllunio ar gyfer dysgu cyfunol

·         Cynnydd hyd yn hyn

 

            Cytunwyd y byddai copi o sleidiau’r cyflwyniad yn cael eu dosbarthu i aelodau’r Pwyllgor ar ôl y cyfarfod. 

 

            Diolchodd y Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor i David Edwards a Martyn Froggett am y gwaith roeddynt wedi’i wneud yn cefnogi ysgolion yn ystod y sefyllfa o argyfwng, ac fe wnaethant longyfarch staff yr ysgolion am eu gwaith caled yn wynebu’r her.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie i’r swyddogion am y cyflwyniad a’r adroddiad. Fe soniodd am arolwg Estyn o sut mae ysgolion ac awdurdodau lleol wedi bod yn cefnogi dysgwyr yn ystod y sefyllfa o argyfwng, a gofynnodd bod yr adborth gan Estyn yn cael ei rannu gyda'r Pwyllgor. Fe soniodd hefyd am y pryder am blant nad oedd â mynediad at fand eang neu declynnau digidol a’r effaith negyddol y byddai hyn yn ei gael ar eu haddysg. Cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’r llythyr adborth ffurfiol am ddysgu cyfunol gan Estyn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y flwyddyn newydd.

 

            Gan ymateb i’r pryderon yngl?n â thrafferthion dysgwyr i gael gafael ar wasanaethau addysg, dywedodd y Prif Ymgynghorydd Dysgu bod gwaith yn mynd rhagddo i gynnal asesiad i ganfod y lefelau o fynediad at declynnau a band eang ar gyfer dysgwyr ar draws Sir y Fflint.  Gellir cyflwyno canlyniad yr asesiad yma i’r Pwyllgor yn nes ymlaen, fel rhan o’r adroddiad diweddaru am Raglen Ddigidol Hwb Cymru. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod nifer fawr  ...  view the full Cofnodion text for item 24