Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking

Cyfarfod: 27/05/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 5)

5 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen gyfredol o Waith i’r dyfodol. Cyfeiriodd at yr eitemau i’w hystyried yn y cyfarfodydd oedd i’w cynnal ar 17 Mehefin ac 1 Gorffennaf 2021, a dywedodd y byddai’r eitemau ar Asesu Dwys a Chymorth Therapiwtig, a’r Prosiect Therapi Aml-Systemig i’w trafod yn y cyfarfod ar y cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ar 17 Mehefin, yn cael eu cyfuno mewn un adroddiad.

 

Adroddodd yr Hwylusydd y byddai’r Rhaglen yn cael ei diweddaru i adlewyrchu’r rhestr cyfarfodydd ar gyfer 2021/22 a gafodd ei chymeradwyo yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir a gynhaliwyd ar 25 Mai.

 

            Dywedodd yr Hwylusydd fod y Cadeirydd wedi awgrymu gwahodd Prif Weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyfarfod o’r Pwyllgor cyn mis Medi. Roedd y Pwyllgor o blaid hyn.

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr adroddiad olrhain gweithredu a oedd wedi’i atodi wrth yr adroddiad a dywedodd fod y gweithredoedd yn codi o gyfarfodydd blaenorol wedi cael eu cwblhau. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr aelodau i godi unrhyw eitemau y dymunent eu gweld ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Carol Ellis bryderon am yr anhawster presennol mewn cael apwyntiadau wyneb yn wyneb gyda Meddygon Teulu a soniodd am y problemau y mae preswylwyr lleol yn eu cael gyda’r broblem hon. Gofynnodd am gael cynnwys eitem ar hyn ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol i gael trafodaeth. Awgrymodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod llythyr yn cael ei ysgrifennu ar ran y Pwyllgor i BIPBC at sylw Rob Smith a Gareth Bowdler a bod hyn hefyd yn cael ei godi gyda Phrif Weithredwr BIPBC pan fydd hi’n dod i gyfarfod o’r Pwyllgor.

 

Mynegodd y Cynghorydd Cindy Hinds bryderon am y diffyg cefnogaeth sydd ar gael i breswylwyr sy’n dioddef symptomau Covid hir. Awgrymodd y Cadeirydd godi hyn hefyd gyda BIPBC yn dilyn y cyfarfod.

 

Cynigiwyd derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Dave Mackie ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

           

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Awdurdodi’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, fel mae’r angen yn codi; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed i gwblhau’r gweithredoedd oedd yn weddill