Mater - cyfarfodydd
Standards Forum & Ethical Liaison Pre-briefing
Cyfarfod: 11/01/2021 - Pwyllgor Safonau (eitem 32)
32 Sesiwn Friffio Cyn y Cyfarfod Cyswllt Moesegol a Fforwm Safonau PDF 88 KB
Ceisio safbwyntiau’r Pwyllgor ar faterion i’w codi yng nghyfarfodydd nesaf y Fforwm Safonau Gogledd a Chanolbarth Cymru a’r cyfarfod bob dwy flynedd gyda’r Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ofyn am farn y Pwyllgor ar faterion i’w codi mewn cyfarfodydd i ddod o’r Fforwm Safonau Canolbarth a Gogledd Cymru a’r cyfarfodydd bob dwy flynedd rhwng Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau gyda’r Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor (a oedd wedi’i ohirio oherwydd y sefyllfa argyfwng).
Wrth baratoi ar gyfer y cyfarfod olaf, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried awgrymiadau i’w cyflwyno i’r Arweinwyr Gr?p a fyddai’n helpu’r Pwyllgor i gyflawni ei rôl a diwallu gofynion y ddeddfwriaeth newydd. Yn ystod trafodaeth, cytunwyd y byddai’r awgrymiadau yn cael eu llywio’n well unwaith y byddai Aelodau Annibynnol wedi cymryd y cyfle i arsylwi cyfarfodydd ffurfiol (fel y trafodwyd yn gynharach ar y rhaglen) ac adrodd yn ôl ar eu canfyddiadau yng nghyfarfod mis Mawrth.
Wrth groesawu hyn, roedd Phillipa Earlam yn awgrymu y gallai presenoldeb mewn hyfforddiant fod yn un o’r materion i’w codi. Dywedodd y Cynghorydd Johnson y gall y Pwyllgor ei hun archwilio’r mater hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Fel y gofynnwyd gan Julia Hughes, cytunwyd y byddai’r cyfarfod gyda’r Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor yn cael ei gynnal i ddechrau i ofyn am eu barn cyn y cyfarfod gyda’r Arweinwyr Gr?p. Byddai’r Swyddog Monitro yn gwneud y trefniadau angenrheidiol.
Dywedwyd fod cyfarfod nesaf y Fforwm Safonau wedi’i drefnu ar gyfer mis Hydref, i’w gynnal gan Gyngor Sir Powys.
PENDERFYNWYD:
Bod eitem ar y testunau a awgrymwyd ar gyfer trafodaeth gyda’r Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor yn cael ei ystyried yng nghyfarfod mis Mawrth, yn dilyn adborth gan yr Aelodau Annibynnol oedd yn mynychu cyfarfodydd pwyllgor ffurfiol.