Mater - cyfarfodydd
Regulation Changes Affecting the LGPS
Cyfarfod: 25/11/2020 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 123)
123 Newidiadau mewn Rheoliadau sy'n effeithio ar Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol PDF 124 KB
Mae yna nifer o newidiadau mewn rheoliadau sy’n mynd rhagddynt a fydd yn effeithio ar y CPLlL, ac felly yn effeithio ar Gronfa Bensiynau Clwyd. Mae’r adroddiad yma’n rhoi gwybodaeth gefndir i aelodau’r Pwyllgor am bedwar prif faes o newid a’r camau sydd eu hangen yn cynnwys dirprwyo i swyddogion.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Regulation Changes Affecting the LGPS, eitem 123 PDF 298 KB
- Enc. 2 for Regulation Changes Affecting the LGPS, eitem 123 PDF 69 KB
- Enc. 3 for Regulation Changes Affecting the LGPS, eitem 123 PDF 65 KB
Cofnodion:
Nododd Mr Latham fod y gwaith yngl?n ag unioni McCloud yn mynd fel y dylai gan fod y Gronfa yn y broses o gasglu data gan gyflogwyr. Ond, roedd risg gydag oedi mewn rheoliadau. Nodwyd yr ymgynghoriad ar indecsio/cydraddoli Gwarant Lleiafswm Pensiwn hefyd ynghyd â’r argymhelliad.
Rhannwyd gwybodaeth o lythyr gan Lywodraeth Cymru yngl?n â’r cap 95k. Ni chai’r Gronfa ei heffeithio gan y rheol hon pe bai gan gyflogwyr o fewn y Gronfa aelodau oedd yn gadael ac yn dod o fewn y categori perthnasol.
Nododd Mr Everett fod y risgiau a gymerir ar risg y cyflogwr, ac nid Cronfa Bensiynau Clwyd. Cytunodd Mr Middleman a dywedodd bod angen i’r llywodraethu a’r penderfyniadau gan y Gronfa a’r cyflogwr fod yn glir ar hyn. Dywedodd Mr Middleman fod hwn yn faes hynod gymhleth a bod angen ei drafod gyda chyflogwyr i sicrhau fod y prosesau cywir yn eu lle.
Nododd Mr Everett fod mater heriol iawn yngl?n â’r newidiadau hyn. Cytunodd Mr Middleman gyda’r cymhlethdod a nododd y gellir bod angen cytuno ar bolisi posibl ar y mater hwn ar gyfer y Gronfa. Cadarnhaodd Mrs McWilliam y gall y Gronfa ddefnyddio dirprwyaeth frys i ddelio â’r sefyllfa hon.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn ystyried y diweddariad.
(b) Bod y Pwyllgor yn ystyried a chytuno ar yr argymhelliad ar gyfer yr ymateb i’r ymgynghoriad o ran Ymgynghoriad Indecsio Gwarant Lleiafswm Pensiwn, fel yr amlinellir ym mharagraff 1.07, ac yn dirprwyo’r ymateb i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd.