Mater - cyfarfodydd
Adoption Absence for Local Authority Members
Cyfarfod: 25/11/2020 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 12)
12 Absenoldeb Mabwysiadu i Aelodau Awdurdodau Lleol PDF 142 KB
ymgynghori â’r pwyllgor ar gynigion LlC i ymestyn cyfnod Absenoldeb Mabwysiadu i Aelodau o Awdurdodau Lleol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar gynigion Llywodraeth Cymru (LlC) i ymestyn Absenoldeb Mabwysiadu ar gyfer Aelodau’r Awdurdod Lleol o bythefnos i 26 wythnos. Eglurodd fod y cyfnod ymgynghori ar agor tan 29 Rhagfyr 2020 ac roedd tri chwestiwn yn cael eu cyflwyno i awdurdodau lleol er mwyn mesur rhesymoldeb y cynigion. Ceisiwyd awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ymateb i’r ymgynghoriad ar ran y Cyngor.
Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd at y tri chwestiwn ym mharagraff 1.06 yn yr adroddiad, yr ymatebion awgrymedig, a’r newidiadau a nodwyd ym mharagraff 1.05.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers gwestiwn am y newidiadau i’r rheoliadau a fyddai’n atal pobl rhag cymryd sawl cyfnod o absenoldeb mabwysiadu o dan yr un trefniant. Holodd am achosion o fabwysiadu mwy nag un plentyn o fewn y flwyddyn, a fyddai absenoldeb o 26 wythnos yn cael ei gynnig ar gyfer bob plentyn neu ai 26 wythnos y flwyddyn fyddai’r uchafswm? Ceisiodd y Cynghorydd Peers eglurhad mewn perthynas â’r newid a fyddai’n caniatáu i unigolion sy’n cymryd absenoldeb mabwysiadu barhau â rhai dyletswyddau gyda chaniatâd y Cadeirydd, a gofynnodd a fyddai hyn yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ei ystyried yn y dyfodol.
Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i’r cwestiynau a godwyd ac eglurodd y byddai’r cynnydd a gynigir i hyd yr absenoldeb mabwysiadu yn caniatáu 26 wythnos ar gyfer y broses fabwysiadu a dywedodd ei fod yn annhebygol y byddai unrhyw un yn mynd drwy’r broses fabwysiadu eto yn yr un flwyddyn. . Rhoddodd enghraifft hefyd o sut y gall unigolyn sy’n cymryd absenoldeb mabwysiadu barhau â rhai o’u dyletswyddau gyda chaniatâd y Cadeirydd.
Cynghorodd y Prif Swyddog, yn dilyn y cyfnod ymgynghori, pe bai’r ddeddfwriaeth yn cael ei phasio, efallai y bydd LlC yn gofyn i’r Awdurdod fabwysiadu newid i’w Rheolau Sefydlog, a fyddai’n cael ei ymgorffori yn y Cyfansoddiad. Byddai’r mater hwn yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd i’w gymeradwyo yn dilyn hynny.
Cynigiodd y Cynghorydd Chris Bithell gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Rob Davies.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r cynigion a’r tri chwestiwn, ynghyd â’r ymatebion awgrymedig, fel ymateb y Cyngor; a
(b) Rhoi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ymateb i’r ymgynghoriad ar ran y Cyngor.