Mater - cyfarfodydd
North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal
Cyfarfod: 17/11/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 29)
29 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – Bargen Dwf Derfynol PDF 165 KB
Cyflwyno’r dogfennau allweddol gofynnol ar gyfer cymeradwyaeth i lunio Cytundeb Bargen Terfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal - Overarching Business Plan, eitem 29 PDF 2 MB
- Enc. 2 for North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal - Draft Final Deal Agreement, eitem 29 PDF 3 MB
- Enc. 3 for North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal - Summary of Governance Agreement, eitem 29 PDF 580 KB
- Enc. 4 for North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal - Governance Agreement, eitem 29 PDF 1 MB
- Enc. 5 for North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal - Future Generations Impact Assessment, eitem 29 PDF 239 KB
- Enc. 6 for North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal - Welsh Language Impact Assessment, eitem 29 PDF 616 KB
- Enc. 7 for North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal - Equality Impact Assessment, eitem 29 PDF 669 KB
- Enc. 8 for North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal - NWEAB Report, eitem 29 PDF 814 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – Bargen Dwf Derfynol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y dogfennau allweddol angenrheidiol er mwyn cael cymeradwyaeth i ddod at y Cytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Dywedodd bod yr adroddiad yn cyflwyno argymhellion y Cabinet bod y Cyngor yn cefnogi ymrwymiad y rhanbarth i Gytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru. Byddai’r Cyngor yn bartner yn, ac yn gyd-lofnodwr y Cytundeb. Dywedodd y Prif Weithredwr bod y Cabinet, mewn cyfarfod a gynhaliwyd cyn cyfarfod y Cyngor Sir heddiw, ac yn dilyn cyngor y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ac Adnoddau Corfforaethol, wedi cefnogi’r adroddiad a’r argymhellion yn llawn.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod ymrwymo i Gytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru yn bwynt arwyddocaol yn hanes y rhanbarth. Mae’r cytundeb yn bartneriaeth rhwng y chwe Awdurdod Lleol, Prifysgolion Bangor a Glynd?r, Coleg Llandrillo a Choleg Cambria. Eglurodd bod y 10 partner wedi derbyn ac wedi cytuno â’r ddogfennaeth berthnasol o fewn cyfnod byr gyda'r nod y byddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Gweinidog yr Economi Cymru yn llofnodi'r Fargen Twf yn ffurfiol ganol mis Rhagfyr gan selio'r ymrwymiad a'r cyllid ar gyfer y rhanbarth ar gyfer y 15 mlynedd nesaf. Dywedodd y byddai’r Fargen Twf yn golygu bod y rhanbarth yn cael ei gydnabod fel rhanbarth a fydd mewn sefyllfa dda i gystadlu am gyllid y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd, yn enwedig ar ôl Brexit. Mae’r Fargen Twf yn werth £1.1 biliwn i economi Gogledd Cymru a disgwylir y bydd yn creu 4,200 o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2036. Yn dilyn ei lofnodi gan Lywodraethau Cymru a'r DU bydd modd gwneud penderfyniadau ar pa bryd y gellid cychwyn rhaglenni a phrosiectau unigol ar sail ranbarthol. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai digon o gyfle i graffu ar fanylion yr holl brosiectau cyn iddynt gael eu lansio
Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) gyflwyniad ar y cyd ar Fargen Twf Gogledd Cymru a oedd yn ymwneud â'r pwyntiau allweddol canlynol:
- partneriaeth - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
- Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru
- Strwythur Llywodraethu
- Amserlen
- Cytundeb Terfynol
- Gofynion y Cytundeb Terfynol – Achosion Busnes
- Cynllun busnes trosfwaol
- Portffolio’r fargen twf
- Rhaglenni
- Incwm a gwariant
- Goblygiadau ariannol
- Cytundeb Llywodraethu 2
- Cytundeb Terfynol drafft
- Dyddiadau allweddol
Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y goblygiadau ariannol. Cyfeiriodd at y data yn yr adroddiad a oedd yn dangos cyfanswm cyfraniadau’r partneriaid (15 mlynedd) i dalu cost y ‘benthyca’ sydd ei angen yn genedlaethol i hwyluso’r llif arian negyddol. Dywedodd bod lefel y benthyca sydd ei angen i ddiwallu’r llif arian parod negyddol yn ddarbodus ac yn rhoi gwerth da am arian yng nghyd-destun darpariaeth amserol prosiect mor fawr. Byddai cyfraniad partner blynyddol ychwanegol y Cyngor yn cael ei gynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2021/22 fel rhan o’r gwaith sy’n mynd yn ei flaen ar y broses gyllidol a barnwyd ei fod yn fforddiadwy.
Adroddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ar y ... view the full Cofnodion text for item 29