Mater - cyfarfodydd
Council Plan 2020/21
Cyfarfod: 20/01/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 37)
37 Cynllun y Cyngor 2020/21 PDF 93 KB
Pwrpas: Ystyried Cynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2020/21 gan ganolbwyntio’n bennaf ar bortffolio(s) priodol y Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1: Draft Council Plan (Part 1) 2021-22, eitem 37 PDF 136 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cynllun y Cyngor 2020/21
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) gynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2021/22. Roedd y cynllun yn edrych yn benodol ar bortffolios y Pwyllgor, sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau o dan y chwe thema. Bydd cynnwys Cynllun y Cyngor ar gyfer 2021/22 yn parhau i ystyried adferiad parhaus yn ogystal ag amcanion strategol yn y tymor hir.
Cytunodd y Cadeirydd bod mwyafrif y materion sy’n cael eu crybwyll yn y ddogfen yn briodol i'r Pwyllgor. Awgrymodd y dylai Aelodau'r Pwyllgor gyfeirio unrhyw sylwadau yn uniongyrchol at y swyddogion.
Soniodd y Cynghorydd Mullin am ffrydiau gwaith o dan y thema Tlodi. Un enghraifft oedd cynorthwyo i alluogi disgyblion i barhau i gael eu haddysgu gartref.
Esboniodd yr Hwylusydd y bydd pob Pwyllgor Trosolwg a Craffu yn ystyried perfformiad yn eu meysydd perthnasol. Bydd gan bob un hefyd drosolwg ar berfformiad o dan yr holl themâu er mwyn adnabod materion trawsbynciol.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Davies a’r Cynghorydd Hutchinson.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r themâu sydd wedi eu datblygu yng Nghynllun y Cyngor 2021/22 cyn eu cymeradwyo gan y Cabinet.