Mater - cyfarfodydd

Anti-Social Behaviour Policy

Cyfarfod: 16/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 25)

25 Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        Ystyried y polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a darparu sylwadau i’w hystyried ymhellach.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a oedd yn cyflawni gofyniad cyfreithiol y Ddeddf Tai 1996 ac a oedd wedi’i ddylunio i roi datganiad clir o’r ymagwedd y byddai Cyngor Sir y Fflint, fel landlord, yn ei gymryd i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn cylch gwaith y Tîm Rheoli Tai.

 

Nod y polisi oedd ceisio sicrhau bod systemau effeithiol yn cael eu mabwysiadu i atal a lleihau nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a’u datrys cyn gynted â phosibl drwy ymyriadau priodol ac amserol. 

 

Dywedodd y Rheolwr Tai bod y Cyngor wedi gweithio gydag adrannau mewnol ac asiantaethau mewnol i gymryd unrhyw gamau gweithredu priodol ac esboniodd y byddai copi o’r polisi, ynghlwm yn Atodiad 1 o’r adroddiad, yn cynorthwyo Cynghorwyr â chyfeirio unrhyw broblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn eu wardiau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurodd y Prif Swyddog nad oedd y Cyngor yn gallu gweithredu ar achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a oedd yn digwydd mewn eiddo preifat gan fod hyn yn fater i’r Heddlu ond fe allai weithredu os oedd yr achosion yn effeithio ar denantiaid tai Cyngor cyfagos.

 

Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Kevin Rush. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.