Mater - cyfarfodydd

Young Carers – NEWCIS Contract

Cyfarfod: 21/01/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 27)

27 Gofalwyr Ifanc – Contract Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC) pdf icon PDF 144 KB

Craffu’r perfformiad a’r canlyniadau a ddarperir i Ofalwyr Ifanc drwy gontract newydd a model gwasanaeth ar gyfer GOGDdC.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at safon wych yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a darparodd wybodaeth gefndir.  Estynnodd wahoddiad i’r Swyddog Cynllunio a Datblygu a Phrif Swyddog Gweithredol NEWCIS i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dywedodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu bod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi cyflwyno newidiadau arwyddocaol a chadarnhaol i ofalwyr sy’n oedolion a phobl ifanc sy’n ofalwyr ac nad ydynt yn derbyn tâl, a oedd wedi arwain at gyfle i adolygu’r contract gwasanaeth Gofalwyr Ifanc, a ddaeth i ben ym mis Mawrth y llynedd.  Roedd pedwar gofalwr ifanc wedi bod yn rhan o’r broses dendro, drwy gefnogi swyddogion fel partneriaid cyfartal.  Roedd hyn yn cynnwys siapio’r gwasanaeth, dewis cwestiynau a chyfweld darpar ddarparwyr gwasanaeth a oedd wedi arwain at ddyfarnu’r contract i NEWCIS.

 

Wrth gyfeirio at y Cerdyn Adnabod newydd ar gyfer Gofalwyr Ifanc, dywedodd y byddai’r cerdyn newydd yn adeiladu ar seiliau’r cerdyn A2A a fabwysiadwyd yn flaenorol gan Sir y Fflint.  Ychwanegodd fod Sir y Fflint wedi penderfynu mabwysiadu dull rhanbarthol ar gyfer datblygu Cerdyn Adnabod cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Ifanc, gan weithio gyda Chynghorau Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.  Roedd cynllun cyfathrebu yn cael ei ddatblygu ar y cyd gyda phartneriaid, gan gynnwys lansio’r cerdyn newydd a’r posibilrwydd o gynnwys sêr proffil uchel, a oedd yn cael ei gynllunio ar gyfer 16 Mawrth 2021 i ddynodi diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc.

 

Mynegodd Prif Weithredwr NEWCIS ei balchder yn dilyn ennill y contract ym mis Gorffennaf y llynedd.  Er nad oedd cyfyngiadau Covid 19 wedi’u cynnwys wrth lunio’r tendr, nid oedd wedi atal cynnydd, ac roedd hyn wedi annog mwy o arloesedd wrth gyflenwi gwasanaethau drwy gyfarfodydd rhithwir oherwydd y cyfyngiadau ar gyfleoedd cyfarfodydd wyneb yn wyneb.  Wrth edrych i’r dyfodol, roedd disgwyl y byddai cymysgedd o gysylltiadau rhithwir ac mewn person.  Ychwanegodd fod y gwasanaeth yn brysur iawn ac roedd gweithio gyda gofalwyr ifanc wedi bod yn brofiad positif iawn i staff NEWCIS, ond roedd yn cydnabod hefyd y bu rhai achosion anodd.  Cyfeiriodd at y cynnydd sylweddol yn nifer y cyfranogwyr yn y grwpiau o dan 18 oed a 18-25 oed.  Wrth edrych i’r dyfodol, roedd yn hyderus y byddai NEWCIS yn parhau i ddarparu gwasanaeth da a chyfeiriodd at gysylltiadau rhanbarthol da gyda Credu a oedd yn darparu gwasanaethu gofalwyr ifanc i ardaloedd awdurdodau lleol eraill a chyfeiriodd at Wrecsam a Sir Ddinbych fel esiamplau.  Roedd yn bleser arbennig gan y Prif Swyddog Gweithredol gyhoeddi bod gofalwr ifanc wedi’i gyflogi gan NEWCIS ym mis Rhagfyr a bod cyllid ar gael i gefnogi gofalwr ifanc i ddechrau ei fusnes ei hun.  Disgrifiodd frwdfrydedd y bobl ifanc, er gwaethaf heriau parhaus y pandemig presennol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at adran 1.11 yr adroddiad a oedd yn datgan bod 201 o atgyfeiriadau newydd wedi’u derbyn rhwng Gorffennaf a Medi 2020.  Esboniodd y Prif Swyddog Gweithredol mai’r cyhoeddusrwydd mewn partneriaeth â’r gwasanaethau cymdeithasol a oedd yn bennaf gyfrifol am hyn ac yn sgil  ...  view the full Cofnodion text for item 27