Mater - cyfarfodydd
School Balances
Cyfarfod: 05/11/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 14)
Rhoi manylion i’r Pwyllgor o falansau ysgolion Sir y Fflint ar ôl cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Final School Balances 2019-20, eitem 14 PDF 67 KB
- Appendix 2 - Protocol for Schools in Financial Difficulty, eitem 14 PDF 199 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Balansau Wrth Gefn Ysgolion Blwyddyn yn Diweddu 31 Mawrth 2020 a Phrotocol ar gyfer Ysgolion Mewn Anawsterau Ariannol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) falansau cronfeydd wrth gefn ysgolion ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 a’r protocol ar gyfer ysgolion ag anawsterau ariannol. Roedd y pwysau ar gyllidebau ysgolion yn parhau ac roedd hynny'n cael ei ddangos yn y gostyngiad yng nghronfeydd wrth gefn yr ysgolion. Dangosir y dadansoddiad o’r balansau wrth gefn ar gyfer pob ysgol yn Sir y Fflint ar ddiwedd Mawrth 2020 yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Roedd cyllidebau ysgolion uwchradd yn parhau i fod dan bwysau arwyddocaol gyda nifer o ffactorau yn cyfrannu at y sefyllfa ariannol bresennol fel y manylir yn adran 1.02 yr adroddiad. Yn y gorffennol, roedd balansau ysgolion cynradd wedi cynnal eu hunain yn dda er gwaethaf y pwysau parhaus gan fesurau cyni ac roedd hyn wedi gwrthbwyso sefyllfa ysgolion uwchradd a oedd yn gwaethygu. Rhagwelwyd y byddai niferoedd disgyblion cynradd yn gostwng a byddai hynny’n creu heriau i Benaethiaid Cynradd wrth reoli eu cyllidebau yn y dyfodol.
Mewn ymateb i'r sefyllfa ariannol sy’n gwaethygu i rai ysgolion uwchradd, datblygodd y Portffolio Addysg ac Ieuenctid Brotocol i Ysgolion ag Anawsterau Ariannol. Cafodd hwn ei gadarnhau a'i ddosbarthu i ysgolion ym mis Hydref 2019 a darparodd fframwaith i ysgolion wneud cais i'r Awdurdod am ddiffygion trwyddedig. Roedd y Protocol hefyd yn darparu fframwaith i’r Cyngor roi lefel briodol o her a chefnogaeth i helpu ysgolion ag anawsterau ariannol osod cyllideb gytbwys. Cynhaliodd Gwasanaeth Archwilio Mewnol Sir y Fflint adolygiad cynghorol o’r Protocol ym mis Mawrth 2020 a byddai Archwiliad Mewnol llawn yn cael ei gynnal o’r broses diffygion trwyddedig yn 2020/21. Roedd manylion yr argymhellion i’r adolygiad cynghorol i’w gweld yn adran 1.06 yr adroddiad ac roedd gwaith yn parhau i fynd i’r afael â’r argymhellion, fel y dangosir yn Atodiad 2 yr adroddiad.
Soniodd y Cynghorydd Dave Mackie bod maint yr ysgolion yn ffactor fawr mewn perthynas â diffygion a dywedodd ei bod yn ymddangos mai ysgolion llai oedd yn wynebu'r problemau mwyaf gyda’u balansau. Dywedodd bod rhai ysgolion wedi rheoli eu cyllidebau yn llwyddiannus ac awgrymodd bod ysgolion a oedd yn wynebu heriau yn cadw mewn cysylltiad â’i gilydd er mwyn dod o hyd i atebion. Ei brif bryder oedd ysgolion bach a’r cyfle i’r Cyngor gymryd camau i gynorthwyo i leihau eu diffygion fel rhan o’r broses o osod y gyllideb ac edrych ar atebion ehangach i’w cynorthwyo yn y dyfodol.
Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, i’r Cynghorydd Mackie am ei sylwadau a soniodd am yr heriau i ysgolion llai a oedd yn gorfod parhau i ddarparu’r cwricwlwm a chefnogaeth fugeiliol. Sicrhaodd y Pwyllgor bod yr holl opsiynau'n cael eu hystyried i gefnogi ysgolion â diffygion a byddai cynigion yn cael eu cyflwyno yn fuan i fynd i'r afael â rhai o'r problemau gan gynnwys materion strwythurol y dylid mynd i'r afael â nhw. Sicrhaodd y Pwyllgor hefyd, ynghyd â’r Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog, bod yr ysgolion hynny â diffygion wedi cael her ... view the full Cofnodion text for item 14