Mater - cyfarfodydd
Overview & Scrutiny Annual report 2019/20
Cyfarfod: 25/11/2020 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 11)
11 Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2019/20
PDF 75 KB
Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2019/20.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i alluogi’r Pwyllgor i ystyried a chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2019/20. Darparodd wybodaeth gefndirol a chynghorodd fod yr Adroddiad Blynyddol yn cynnig sicrwydd i’r Cyngor fod y swyddogaeth Trosolwg a Chraffu yn cyflawni ei rôl. Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol drafft i’r Pwyllgor er mwyn rhoi cyfle i aelodau gyflwyno sylwadau cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo’n ffurfiol.
Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn seiliedig ar y strwythur chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu a adolygwyd yn y ystod y flwyddyn. Cyflwynwyd y strwythur pum Pwyllgor newydd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ym mis Medi 2020. Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd at gylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol a oedd, ar ôl cwblhau ei nodau a’i dasgau yn llwyddiannus, wedi’i dynnu’n ôl fel rhan o’r adolygiad. Byddai materion i’r dyfodol mewn perthynas â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol yn cael eu dyrannu i’r Pwyllgor mwyaf priodol yn y strwythur presennol.
Cafodd yr argymhelliad i gymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ei gynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’i eilio gan y Cynghorydd Patrick Heesom.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers am eglurhad o’r gofyniad ym mharagraff 1.01 o’r adroddiad. Mewn ymateb i’r sylwadau, eglurodd y Swyddogion mai’r arfer cyfredol oedd i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ystyried ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol ym mhob cyfarfod a bod Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael ei bwydo i Raglen Gwaith i‘r Dyfodol y Cyngor a oedd yn cael ei chyflwyno i’r Cabinet yn fisol. Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i ystyried y geiriad yn y Cyfansoddiad.
Awgrymodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y dylid diwygio’r argymhelliad yn yr adroddiad fel a ganlyn:
(a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2019/20 a
(b) Bod y Pwyllgor yn argymell newid y geiriad yn y Cyfansoddiad i adlewyrchu’r arfer cyfredol
Cafodd y diwygiad ei gynnig gan y Cynghorydd Mike Peers a’i eilio gan y Cynghorydd Chris Bithell.Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd hyn.
Diolchodd y Cynghorydd Patrick Heesom i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd am ei waith ar Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2019/20; a
(b) Bod y Pwyllgor yn argymell newid y geiriad yn y Cyfansoddiad i adlewyrchu’r arfer cyfredol