Mater - cyfarfodydd

Recovery Strategy Update

Cyfarfod: 16/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 26)

26 Diweddariad Strategaeth Adferiad pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Adfer a chyfeiriodd at y risgiau a oedd wedi’u haddasu ers y cyfarfod diwethaf. Roedd y tueddiad risg mewn perthynas â Digartrefedd a’i effaith ar allu gweithlu wedi cynyddu oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl sy’n cyflwyno eu hunain fel bod yn ddigartref.O ran yr ôl-groniad o unedau gwag yn effeithio’n negyddol ar y Cynllun Busnes NEW Homes, cynyddwyd y risg hwn hefyd oherwydd ei bod yn cymryd mwy o amser i osod eiddo oherwydd nifer yr apwyntiadau sydd ar gael i’w gweld ac oedi o ran atgyweirio unedau gwag.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Mared Eastwood a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r Gofrestr Risg wedi’i diweddaru a’r Camau Lliniaru Risg, fel yr oeddent yn yr adroddiad.