Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (Env)

Cyfarfod: 13/10/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 11)

11 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol a’r Camau Gweithredu i’w Holrhain, er mwyn eu hystyried, a rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) ddiweddariadau cryno ar rai o’r eitemau.

 

Mewn ymateb i geisiadau gan Gynghorwyr, fe wnaeth yr Hwylusydd Craffu gadarnhau y byddai adroddiadau ar y Strategaeth Trafnidiaeth Integredig a Newid Hinsawdd yn cael eu dwyn gerbron y Pwyllgor pan geir unrhyw wybodaeth berthnasol bellach i’w chyflwyno, a chadarnhaodd y gellid ychwanegu Gorfodaeth Cynllunio. Cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) y gellid sefydlu cyfarfod rhithwir gyda’r Tîm Rheoli a Rheolwr y Prosiect o Barc Adfer, oherwydd bod yr ymweliad safle wedi’i ohirio yn y flwyddyn newydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Owen Thomas, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant), fod yna gynlluniau am lwybr beicio o Rydymwyn i’r Wyddgrug a oedd wedi’u cyflwyno, ac roedd Swyddogion yn edrych ar y llwybr gyda’r opsiwn i ddefnyddio tir yr hen reilffordd segur, ond yn anffodus, nid oedd llawer o’r tir hwnnw ym mherchnogaeth y Cyngor. Byddai angen ei hysbysebu fel rhan o Fap Rhwydwaith, a fyddai yna’n disgyn i’r broses ymgeisio ar gyfer Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd y byddai hynny ychydig o flynyddoedd i ffwrdd gan fod llawer o waith ynghlwm wrth gaffael y tir a chael cefnogaeth i’r llwybr gan Lywodraeth Cymru.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Evans beth oedd yr amserlen ar gyfer llwybr beiciau yr Wyddgrug i Frychdyn. Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) wybod fod yna gyfres lawn o gynlluniau ar gyfer y llwybr nawr, a’i fod wedi bod yn sgwrsio gyda Llywodraeth Cymru am y cyllid posibl yr oeddent yn fodlon ei roi ar gyfer darnau o’r Wyddgrug i Fwcle a Sandycroft i Airbus, yn hytrach na’r hyd i gyd, a byddai’n rhannu’r cynlluniau mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Roedd gan y Cynghorydd Hutchinson ddiddordeb mewn gwybod a oedd llwybr gwreiddiol llwybr beiciau yr Wyddgrug i Frychdyn a Chaer yn bwriadu bod ar hyd Dyffryn Alun drwy Long a Phenyffordd.Teimlai y byddai’r llwybr hwn yn gwneud beicwyr yn amharod i fynd arno am iddynt orfod beicio i fyny Warren Hill, neu a fyddai’n dilyn y rheilffordd ar hyd Dyffryn Alun, sydd fwy neu lai yn wastad i Frychdyn a thu hwnt, i Saltney a Chaer.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) wybod mai dyma fyddai’r llwybr a ffefrir, ond yn anffodus nid yw’r tir bellach ym mherchnogaeth y Cyngor. Roedd trafodaethau’n digwydd gyda’r perchennog tir i ddefnyddio darnau o’r rheilffordd wrth iddi ddod allan o’r Wyddgrug drwy Wylfa, lle mae gennym broblemau yn cael lôn feiciau benodol.Cyfeiriodd at lwybr arall sy’n defnyddio’r ymylon, heibio Gwaith Sment Padeswood, hyd at Dobshill. Byddai hon yn lôn feiciau benodol ac nid yn lôn feiciau ar ffordd, felly byddai’n gallu dilyn y rheilffordd am ei hyd i gyd. Byddai manylion yn cael eu rhannu mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bithell bod yna gyfres o ymgynghoriadau i fod i ddigwydd ym  ...  view the full Cofnodion text for item 11