Mater - cyfarfodydd

Member IT support

Cyfarfod: 14/10/2020 - Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd (eitem 6)

6 Cefnogaeth TG i Aelodau pdf icon PDF 85 KB

I’r pwyllgor ystyried cynigion ar gyfer darpariaeth TG gwell i Aelodau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i ystyried y cynigion ar gyfer gwell darpariaeth TG i Aelodau.  Darparodd wybodaeth gefndir ac esboniodd nad oedd darpariaeth TG bresennol yr Awdurdod i’r Aelodau, yn seiliedig ar ddarparu ipads, yn ddigonol i ateb holl ofynion TG yr Aelodau er mwyn eu galluogi i gymryd rhan lawn mewn cyfarfodydd o bell. I liniaru'r pryderon hyn ac i alluogi Aelodau sydd heb offer TG ar hyn o bryd, roedd yr Awdurdod wedi ymchwilio i ddarparu gliniaduron i Aelodau.    Byddai’r gost yn cael ei gosod yn erbyn costau cynyddol argraffu a phostio agendâu. Byddai modd i Aelodau wrthod y ddarpariaeth hon.

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod penderfyniadau 9 a 10 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) yn ymwneud â chymorth i Aelodau, gan gynnwys bod y Cyngor yn darparu i‘w haelodau ‘cyfleusterau ffôn, e-bost a rhyngrwyd digonol i roi mynediad electronig at wybodaeth briodol’, heb gost i’r aelod unigol. Am y rheswm hwn, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried cynnig ‘lwfans band eang’ o hyd at £30 y mis i Aelodau. Esboniodd y Prif Swyddog bod nifer o Aelodau, er bod ganddynt y ddarpariaeth band eang uchaf yn eu hardal,  yn cael anawsterau cysylltu gan nad yw lled eu band eang yn ddigonol, ac i gydnabod hynny byddai dyfeisiau Mi-Fi yn cael eu darparu. Byddai cost y Mi-Fi yn cael ei osod yn erbyn lwfans band eang yr Aelod sef £30. Byddai modd i Aelodau unigol wrthod y cynigion os ydynt yn fodlon â'u darpariaeth bresennol.  

 

Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Prif Swyddog i’r sylwadau a’r ymholiadau a godwyd gan Aelodau yngl?n â materion technegol yn ymwneud â diogelwch, capasiti a chyfluniad, y gliniaduron newydd arfaethedig ac uwchraddio unrhyw offer TG personol a ddefnyddir gan Aelodau.  Awgrymodd y Cynghorydd Mike Peers y dylid cynnal arolwg manwl i benderfynu pa offer TG sydd eu hangen ar unigolion mewn gwirionedd a pha mor addas yw'r offer personol a ddefnyddir gan yr holl Aelodau.Dywedodd y byddai hyn o bosibl yn lleihau costau'r Awdurdod os yw’n darparu offer nad oes eu hangen mewn gwirionedd.Esboniodd y Prif Swyddog, pe bai’r Pwyllgor yn penderfynu cytuno ag argymhellion yr adroddiad, y byddai swyddogion yn ymgynghori ag Aelodau yngl?n â’r opsiynau sydd ar gael i sicrhau bod eu gofynion TG yn cael eu cyflawni a bod unrhyw broblemau yn cael eu datrys.  

 

Cynigwyd yr argymhelliad canlynol gan y Cynghorydd Chris Bithell ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

  • Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo darparu gliniadur gan y cyngor i bob Aelod sy'n gofyn am un. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Mike Peers bod yr argymhelliad yn cael ei newid i gynnwys gofyniad i gynnal arolwg manwl o Aelodau i benderfynu a oes angen iddynt ddefnyddio eu hoffer eu hunain a chytunodd y Pwyllgor â hynny.

Cynigwyd yr argymhelliad canlynol gan y Cynghorydd Chris Bithell ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Arnold Woolley.